
1 

(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2003.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
17 Mawrth 2003 yw'r dydd penodedig pan fydd adran 13 o Ddeddf 2001 yn dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Mawrth 2003