
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 28 Mawrth 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 neu wedi hynny, diwygir Rheoliad 3 o Reoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000—
(a) drwy hepgor paragraff (d); a
(b) drwy ychwanegu ar y diwedd—“
(j) Cydgysylltwyr Gwasanaethau Rheoliadol yr Awdurdodau Lleol”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Mawrth 2003