
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Treth Gyngor (Diystyru Gostyngiad) (Diwygio) (Cymru) 2003 ac mae'n dod i rym ar 1 Ebrill 2003
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) o ran cwrs yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod y mae person yn dechrau ar y cwrs hwnnw ac yn dod i ben ar y diwrnod (“y diwrnod olaf”) y mae'r person hwnnw yn ei gwblhau, yn rhoi'r gorau iddo, neu yn gorfod ei adael (mae'r cyfnod hwnnw yn cynnwys unrhyw gyfnod o wyliau rhwng tymhorau a chyn y diwrnod olaf);
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
 ystyr “y Prif Orchymyn” (“the Principal Order”) yw Gorchymyn Treth Gyngor (Anwybyddiad Gostyngiad) 1992;
3 

(1) At ddibenion paragraff 4 o Atodlen 1 i'r Ddeddf, ystyr “youth training trainee” yw person sydd, ar ddiwrnod penodol—
(a) yn iau na 25 oed; a
(b) ar gwrs hyfforddi a hynny'n cydymffurfio â chynllun hyfforddi personol yn unol â threfniadau—
(i) a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973; a
(ii) sy'n cyfrif fel cynllun hyfforddi fel y'i diffinnir yn rheoliad 75(1)(b) o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996.
(2) Mae person ar gwrs, at ddibenion paragraff (1) uchod, ar ddiwrnod penodol os yw'r diwrnod yn dod o fewn y cyfnod perthnasol i'r cwrs hwnnw.
4 

(1) Yn Erthygl 4 o'r Prif Orchymyn dileir y geiriau“
 “youth training trainee” has the meaning given by paragraph 8 of and Schedule 1 to this Order”; a
(2) Dileir Rhan IV (Hyfforddi Ieuenctid) o Atodlen 1 i'r Prif Orchymyn yn ei gyfanrwydd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Mawrth 2003