
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Cymru) (Diwygio) 2003 a daw i rym ar 9 Mawrth 2003.
2 

(1) Diwygir Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Cymru) 2000 yn unol â darpariaethau'r erthygl hwn.
(2) Mewnosodir y diffiniad canlynol yn y man priodol yn erthygl 2(1):“
 Ystyr “Annex XVII” yw Annex XVII i Reoliad y Cyngor 2341/2002 dyddiedig 20 Rhagfyr 2002 yn pennu ar gyfer 2003 y cyfleoedd pysgota a'r amodau cysylltiedig ar gyfer stociau penodol o bysgod a grwpiau o stociau pysgod sydd yn gymwys yn nyfroedd y Gymuned ac, ar gyfer cychod y Gymuned, mewn dyfroedd lle y mae cyfyngu haldiadau yn ofynnol;”.
(3) Ychwanegir, ar ddiwedd y diffiniad o “Rheoliad 2847/93” yn erthygl 2(1), y geiriau “ac fel y'i cymhwysir gan baragraff 12 a'i cyfyngir gan baragraff 20 o Atodiad XVII”.
(4) Mewnosodir, yng ngholofn 3 o bob cofnod ar gyfer eitemau 2(h), (i), (l) ac (ll) o'r Atodlen, ar ôl y geiriau “15 metr” lle bynnag yr ymddangosant, y geiriau “neu, i'r graddau sy'n gymwys o ganlyniad i baragraff 12 o Atodiad XVII, yn gyfartal i 10 metr neu'n fwy na hynny)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Mawrth 2003