
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 
Diddymir rheoliad 4 o Reoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) (Cymru) 2000 a rheoliad 28 o Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001).
3 
Heblaw pan fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y rheoliadau hyn —
 mae i “asiant” yr ystyr a roddir i “agent” yn adran 15A(1) o Ddeddf 1998;
 ystyr “athro neu athrawes gofrestredig” (“registered teacher”) yw —
(a) person sydd ar hyn o bryd wedi'i gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998;
(b) person a gofrestrwyd o dan adran 3 o Ddeddf 1998 ar adeg unrhyw ymddygiad neu dramgwydd honedig ar ei ran; neu
(c) person sydd wedi gwneud cais i gael ei gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998;
 mae i “cyflogwr perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant employer” yn adran 142 o Ddeddf Addysg 2002;
 ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
 ystyr “gwasanaethau” (“services”) yw gwasanaethau a ddarparwyd i gyflogwr perthnasol yng Nghymru ac mae'n cynnwys gwasanaethau proffesiynol a gwirfoddol;
 mae i “gweithiwr” yr ystyr a roddir i “worker” yn adran 15A(1) o Ddeddf 1998;
 ystyr “mater perthnasol” (“relevant issue”) yw mater sy'n codi pan fydd amgylchiadau'r achos, gan gynnwys achlysuron o ymddygiad heblaw'r hwnnw sydd o dan sylw, o'r fath eu bod yn codi mater sy'n ymwneud â diogelwch a lles plant;
 ystyr “Pwyllgor” (“Committee”) yw Pwyllgor Ymchwilio, Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol neu Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol a sefydlwyd o dan Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001;
 ystyr “Pwyllgor Ymchwilio” (“Investigating Committee”) yw pwyllgor a sefydlwyd o dan reoliad 3(1) o Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001; ac
 ystyr “trefniadau” yw trefniadau o'r math y cyfeirir atynt yng nghyswllt y gair “arrangements” yn adran 15A(1) o Ddeddf 1998 i weithiwr gyflawni gwaith yng Nghymru.
4 
Pan—
(a) fo cyflogwr perthnasol wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person am reswm —
(i) nad yw'r person yn gymwys i weithio â phlant;
(ii) sy'n ymwneud â chamymddygiad y person; neu
(iii) sy'n ymwneud â iechyd y person os yw mater perthnasol yn codi; neu
(b) y gallai cyflogwr perthnasol fod wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person am reswm o'r fath pe na bai'r person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny,rhaid i'r cyflogwr roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan I o'r Atodlen sydd ar gael i'r cyflogwr mewn perthynas â pherson o'r fath i'r Cynulliad Cenedlaethol.
5 

(1) Pan —
(a) fo cyflogwr perthnasol wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person sy'n athro neu athrawes gofrestredig am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol; neu
(b) y gallai cyflogwr perthnasol fod wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person sy'n athro neu athrawes gofrestredig am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol pe na bai wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny,
rhaid i'r cyflogwr roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan I o'r Atodlen sydd ar gael i'r cyflogwr mewn perthynas â pherson o'r fath i'r Cyngor.
(2) Rhaid i'r Cyngor sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarparwyd iddynt o dan y rheoliad hwn ar gael i Bwyllgor Ymchwilio.
6 
Pan —
(a) fo asiant wedi terfynu trefniadau am reswm —
(ii) nad yw'r gweithiwr yn gymwys i weithio â phlant;
(ii) sy'n ymwneud â chamymddygiad y gweithiwr; neu
(iii) sy'n ymwneud â iechyd y gweithiwr os yw mater perthnasol yn codi;
(b) y gallai asiant fod wedi terfynu trefniadau am reswm o'r fath, pe na bai'r gweithiwr wedi'u terfynu; neu
(c) y gallai asiant fod wedi ymatal rhag gwneud trefniadau newydd ar gyfer gweithiwr am reswm o'r fath, pe na bai'r gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio,rhaid i'r asiant roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan II o'r Atodlen sydd ar gael i'r asiant mewn perthynas â'r gweithiwr i'r Cynulliad Cenedlaethol.
7 

(1) Pan—
(a) fo asiant wedi terfynu trefniadau i weithiwr sy'n athro neu athrawes gofrestredig gyflawni gwaith am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol;
(b) y gallai asiant fod wedi terfynu trefniadau am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol pe na bai'r gweithiwr wedi'u terfynu; neu
(c) y gallai asiant fod wedi ymatal rhag gwneud trefniadau newydd ar gyfer gweithiwr sy'n athro neu athrawes gofrestredig am reswm sy'n ymwneud â'i anghymwysedd proffesiynol pe na bai'r gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio,
rhaid i'r asiant roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan II o'r Atodlen sydd ar gael i'r asiant mewn perthynas â'r athro neu athrawes gofrestredig i'r Cyngor.
(2) Rhaid i'r Cyngor sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarperir iddynt o dan y rheoliad hwn ar gael i Bwyllgor Ymchwilio.
Llofnodwyd a ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Mawrth 2003
YR ATODLEN
RHAN 1
1 
Datganiad o'r rhesymau dros roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person.
2 
Cofnodion y cyflogwr sy'n ymwneud â rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu unrhyw ystyriaeth i wneud hynny, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a dderbyniwyd gan y cyflogwr.
3 
Cofnodion y cyflogwr sy'n ymwneud â'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu allai, oni bai fod y person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, fod wedi arwain i'r cyflogwr roi'r gorau i ddefnyddio ei wasanaethau, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a dderbyniwyd gan y cyflogwr.
4 
Llythyrau, rhybuddion neu hysbysiadau gan y cyflogwr a roddwyd i berson mewn perthynas â rhoi'r gorau i ddefnyddio ei wasanaethau neu ystyriaeth i wneud hynny, neu'r ymddygiad arweiniodd yn y pen draw at roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu allai, pe na bai'r person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, fod wedi arwain i'r cyflogwr roi'r gorau i ddefnyddio'i wasanaethau, ac atebion neu gynrychioliadau'r person mewn perthynas â hynny.
5 
Unrhyw ddatganiadau, gynrychioliadau a thystiolaeth eraill a gyflwynwyd gan berson i'r cyflogwr mewn perthynas â rhoi'r gorau i ddefnyddio ei wasanaethau neu ystyriaeth i wneud hynny, neu'r ymddygiad arweiniodd yn y pen draw at roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu allai, oni bai fod y person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, fod wedi arwain i'r cyflogwr roi'r gorau i ddefnyddio'i wasanaethau.
6 
Llythyr yn hysbysu bwriad person i roi'r gorau i ddarparu gwasanaethau.
7 
Unrhyw ddogfen neu wybodaeth arall y mae'r cyflogwr yn ystyried yn berthnasol i unrhyw ymchwiliad allai gael ei gynnal gan Bwyllgor Ymchwilio neu unrhyw gamau y gallai'r Pwyllgor eu cymryd yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig.
RHAN II
1 
Datganiad o'r rhesymau dros derfynu'r trefniadau.
2 
Unrhyw gofnodion sy'n ymwneud â therfynu'r trefniadau neu unrhyw ystyriaeth i wneud hynny, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a dderbyniwyd gan yr asiant.
3 
Unrhyw gofnodion sy'n ymwneud â'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at derfynu trefniadau neu allai, pe na bai'r gweithiwr wedi terfynu'r trefniadau, fod wedi arwain i'r asiant eu terfynu, neu allai, pe na bai'r gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio, fod wedi arwain i'r asiant ymatal rhag gwneud trefniadau newydd, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a dderbyniwyd gan yr asiant.
4 
Llythyrau, rhybuddion neu hysbysiadau gan asiant a roddwyd i berson mewn perthynas â therfynu trefniadau, neu'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at derfynu'r trefniadau, neu allai, pe na bai'r gweithiwr wedi terfynu'r trefniadau, fod wedi arwain i'r asiant eu terfynu, neu allai, pe na bai'r gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio, fod wedi arwain i'r asiant ymatal rhag gwneud trefniadau newydd, ac atebion y gweithiwr neu gynrychioliadau mewn perthynas â hynny.
5 
Unrhyw ddatganiadau, gynrychioliadau a thystiolaeth a gyflwynwyd gan berson i'r asiant mewn perthynas â therfynu trefniadau, neu'r ymddygiad arweiniodd yn y pen draw at derfynu trefniadau neu allai, oni bai fod y gweithiwr wedi terfynu trefniadau, fod wedi arwain i'r asiant eu terfynu, neu allai, oni bai fod y gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio, fod wedi arwain i'r asiant ymatal rhag gwneud trefniadau newydd.
6 
Llythyr gan y gweithiwr yn terfynu trefniadau neu yn peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio.
7 
Unrhyw ddogfen neu wybodaeth arall sydd ym marn yr asiant yn berthnasol i unrhyw ymchwiliad y gellid ei gynnal gan Bwyllgor Ymchwilio neu unrhyw gamau y gallai Pwyllgor eu cymryd yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig.