
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 7 Chwefror 2003.
2 
Mae'r cymunedau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn cael eu dynodi'n ardaloedd gwledig at ddibenion adran 157(1)(c) o Ddeddf Tai 1985 (cyfyngu ar waredu tai annedd mewn Parciau Cenedlaethol, a.y.y.b.) ac adran 17(1)(b) o Ddeddf Tai 1996 (hawl tenant i gaffael annedd).
3 
Mewn perthynas â thŷ annedd yng Nghymru ac eithrio'r un y mae Erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, ac sydd wedi'i leoli mewn Parc Cenedlaethol neu ardal sydd wedi'i dynodi o dan adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, neu adran 87 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949) neu ardal sydd wedi'i dynodi gan Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn ardal wledig, bydd y rhanbarth dynodedig at ddibenion adran 157(3) o Ddeddf Tai 1985 yn cynnwys y canlynol:
(a) y Parc Cenedlaethol hwnnw neu'r ardal honno o harddwch naturiol eithriadol neu'r ardal wledig ddynodedig honno, yn ôl fel y digwydd; a
(b) y rhan o'r sir neu'r fwrdeistref sirol y mae'r tŷ annedd wedi'i leoli ynddi ond nad yw o fewn y Parc Cenedlaethol hwnnw, yr ardal honno o harddwch naturiol eithriadol neu'r ardal wledig ddynodedig honNo. 
4 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i dai annedd a leolir yn yr ardaloedd a ddynodir yn ardal o harddwch naturiol eithriadol at ddibenion Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 gan Orchymyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy (Dynodi) (Cymru) 1971.
(2) Mewn perthynas â thŷ annedd y mae'r erthygl hon yn gymwys iddi, y rhanbarth dynodedig at ddibenion adran 157(3) o Ddeddf 1985 fydd yr ardal sy'n cynnwys y canlynol:
(a) yr ardal a ddynodwyd gan y gorchymyn hwnnw, a
(b) y rhan o'r sir y mae'r tŷ annedd wedi'i leoli ynddi ond nad yw o fewn yr ardal a ddynodir gan y gorchymyn hwnnw.
5 

(1) Dirymir Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Cymru) 1980;
(1) Ar gyfer pob tŷ annedd yn y cymunedau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, sef tŷ annedd sydd wedi'i feddiannu gan ei denant neu denantiaid cyfredol ar 7 Chwefror 2003 neu ar ôl hynnu, rhaid darllen Erthygl 3 o Orchymyn Diwygio Cyfraith Prydlesi a Thai (Tenantiaethau wedi'u Heithrio) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig) (Cymru) 1997 fel petai paragraff (b) wedi'i ddileu.
(2) Ar gyfer pob tŷ annedd yn y cymunedau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, sef tŷ annedd a oedd wedi'i feddiannu gan ei denant neu denantiaid cyfredol cyn 7 Chwefror 2003, bydd effaith Erthygl 3 o Orchymyn Diwygio Cyfraith Prydlesi a Thai (Tenantiaethau wedi'u Heithrio) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig) (Cymru) 1997 yn parhau yn lle darpariaethau'r Gorchymyn hwn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 14 Ionawr 2002
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Ionawr 2002
YR ATODLEN
Erthygl 2
Llangyfelach, Mawr; a'r rhan honno o'r gymuned ganlynol nad yw wedi'i lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵ yr: Llanrhidian Uchaf.
Ewenni, Gwenfô, Llanbedr-y-fro, Llancarfan, Llandŵ , Llanddunwyd, Llan-fair, Llanfihangel-ynys-Afan, Llan-gan, Llan-maes, Pendeulwyn, Pen-llin, Sain Dunwyd, Sain Nicolas a Thresimwn, Sain Siorys, Saint-y-brid, Tregolwyn, Y Wig.
Sain Ffagan.
Abergwili, Aber-nant, Bronwydd, Castellnewydd Emlyn, Cefn Sidan, Cenarth, Cil-y-cwm, Cilymaenllwyd, Clunderwen, Cydweli, Cynwyl Elfed, Cynwyl Gaeo, Eglwys Gymyn, Gors-las, Hendy-gwyn ar Dâf, Henllan Fallteg, Llanarthne, Llanboidy, Llanddarog, Llanddowror, Llandeilo, Llandyfaelog, Llanegwad, Llanfihangel-ar-arth, Llanfair-ar-y-bryn, Llanfihangel Aberbythych, Llanfihangel Rhos-y-corn, Llanfynydd, Llan-gain, Llangathen, Llangeler, Llangynnwr, Llangyndeyrn, Llangynin, Llangynog, Llanismel, Llanllawddog, Llanllwni, Llannewydd a Merthyr, Llan-non, Llanpumsaint, Llansadwrn, Llansawel, Llansteffan, Llanwinio, Llanwrda, Llanybydder, Llan-y-crwys, Manordeilo a Salem, Meidrim, Pencarreg, Pentywyn, Pontyberem, Sanclêr, Talyllychau, Treflan Lacharn, Tre-lech, Trimsaran, a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: Dyffryn Cennen, Llangadog, Llanymddyfri, Myddfai.
Argoed, Cwm Darren, Rhydri.
Allteuryn, Coedcernyw, Langstone, Llanfaches, Llanfihangel-y-fedw, Llan-wern, Nash, Pen-hŵ, Redwick, Gwynllwg.
Aberaeron, Aber-porth, Beulah, Blaenrheidol, Ceinewydd, Ceulan a Maes-mawr, Ciliau Aeron, Dyffryn Arth, Genau'r-glyn, Henfynyw, Llanbadarn Fawr, Llannarth, Llandyfrïog, Llandysiliogogo, Llandysul, Llanddewibrefi, Llanfair Clydogau, Llanfarian, Llanfihangel Ystrad, Llangeitho, Llangoedmor, Llangrannog, Llangwyryfon, Llangybi, Llangynfelyn, Llanilar, Llanllwchaearn, Llanrhystud, Llansanffraid, Llanwnnen, Lledrod, Melindwr, Nantcwnlle, Penbryn, Pontarfynach, Tirymynach, Trawsgoed, Trefeurig, Tregaron, Troed-yr-aur, Y Borth, Y Ferwig, Ysbyty Ystwyth, Ysgubor-y-coed, Ystrad Fflur, Ystradmeurig.
Betws-yn-Rhos, Cerrigydrudion, Eglwys-bach, Llanddoged a Maenan, Llanefydd, Llanfair Talhaearn, Llanfihangel Glyn Myfyr, Llangernyw, Llangwm, Llansanffraid Glan Conwy, Llansannan, Pentrefoelas a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Eryri: Bro Garmon, Caerhun, Dolgarrog, Henryd, Llanfairfechan, Llanrwst, Trefriw.
Betws Gwerful Goch, Bodelwyddan, Cefn Meiriadog, Clocaenog, Corwen, Cyffylliog, Cynwyd, Derwen, Efenechtyd, Gwyddelwern, Henllan, Llandrillo, Llanelidan, Llangollen, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, Llandysilio, Llanynys, Nantglyn, Trefnant, Waun a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd: Aberchwiler, Bodfari, Bryneglwys, Diserth, Llanarmon-yn-Iâl, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llandegla, Llandyrnog, Llanfair Dyffryn Clwyd, Llangynhafal, Tremeirchion, Y Cwm.
Criccieth, Llanrug, Llanwnda, Llanystumdwy, Pentir, Y Bontnewydd, Y Felinheli; y rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Eryri: Aber, Arthog, Abermo, Betws Garmon, Clynnog, Corris, Dolbenmaen, Ffestiniog, Llanberis, Llandwrog, Llandygái, Llanddeiniolen, Llandderfel, Llanfrothen, Llangywer, Llanllechid, Llanllyfni, Penrhyndeudraeth, Tywyn, Waunfawr; a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn: Aberdaron, Botwnnog, Buan, Clynnog, Llanaelhaearn, Llanbedrog, Llanengan, Llannor, Nefyn, Pistyll, Tudweiliog.
Y rhan honno o'r gymuned ganlynol nad yw wedi'i lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: Y Faenor.
Brynbuga, Caer-went, Gwehelog Fawr, Llan-arth, Llanbadog, Llandeilo Gresynni, Llangatwg Feibion Afel, Llan-gwm, Llangybi, Llanhenwg, Llantrisaint Fawr, Porth Sgiwed, Rogiet; a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: Crucornau Fawr, Goetre Fawr, Llan-ffwyst Fawr, Llanofer Fawr, Y Grysmwnt; a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy: Devauden, Drenewydd Gelli-fach, Matharn, Llanfihangel Troddi, Rhaglan, Tryleg Unedig.
Arberth, Boncath, Camros, Cas-blaidd, Cas-wis, Cilgerran, Cilgeti/Begeli, Clydau, Gorllewin Llandysilio, Johnston, Llanbedr Felffre, Llanddewi Felffre, Llanstadwel, Manordeifi, Rudbaxton, Rhosfarced, Scleddau, Spital, St. Florence, Tiers Cross, Treamlod, Tredeml, Trecwn, Treletert, Y Mot; a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro: Amroth, Breudeth, Burton, Cariw, Castell Gwalchmai, Castellmartin, Cosheston, Crymych, Cwm Gwaun, Eglwyswrw, Freystrop, Cas-lai, Cas-mael, Herbrandston, Hundleton, Jeffreyston, Llandudoch, Llandyfái, Llangwm a Hook, Llanhuadain, Llanrhian, Maenclochog, Martletwy, Mathri, Mynachlog-ddu, Nyfer, Nolton a'r Garn, Penalun, Pen-caer, Slebech, Solfach, St. Mary Out Liberty, The Havens, Uzmaston a Boulston, Ystangbwll.
Llangrallo Uchaf, Llangynwyd Isaf, Merthyr Mawr.
Abaty Cwm-hir, Aberedw, Aberhafesb, Aberriw, Banwy, Bausley a Chrugion, Betws, Bronllys, Bugeildy, Cadfarch, Caersws, Carno, Carreghwfa, Castell Caereinion, Cegidfa, Ceri, Cilmeri, Cleirwy, Diserth a Thre-coed, Duhonw, Dwyriw, Erwd, Felin-fach, Ffordun, Glantwymyn, Glasgwm, Hwytyn, Llanafan Fawr, Llanandras, Llanbadarn Fawr, Llanbadarn Fynydd, Llanbedr Castell-paen, Llanbister, Llanbryn-mair, Llandinam, Llandrinio, Llandysilio, Llandysul, Llanddewi Ystradenni, Llanelwedd, Llanerfyl, Llanfair Caereinion, Llanfair Llythynwg, Llanfair-ym-Muallt, Llanfechain, Llanfihangel, Llanfihangel Rhydieithon, Llanfyllin, Llangamarch, Llangedwyn, Llangunllo, Llangurig, Llangynog, Llangynyw, Llanidloes, Llanidloes y Tu Allan, Llanllyr, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llanrhaeadr-ym-Mochnant (gynt yn Sir Clwyd), Llansanffraid, Llansilin, Llanwddyn, Llanwrthwl, Llanwrtyd, Machynlleth, Maesyfed, Manafon, Meifod, Merthyr Cynog, Mochdre, Nantmel, Pencraig, Pen-y-bont, Pen-y-bont-fawr, Rhaeadr, Saint Harmon, Trefaldwyn, Trefeglwys, Treflys, Trefyclo, Tregynon, Tre-wern, Y Clas-ar-Wy, Yr Ystog, Yr Ystog (Ar Wahân), Y Trallwng; a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: Gwernyfed, Honddu Isaf, Llan-ddew, Llanfrynach, Llan-gors, Llaneigon, Llywel, Maes-car, Talgarth, Tawe Uchaf, Trallong, Yscir, Ystradgynlais.
Llwytgoed, Y Rhigos; a'r rhan honno o'r gymuned ganlynol nad yw wedi'i lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵ yr: Hirwaun.
Abenbury, Bangor Is-coed, Bronington, Ceiriog Uchaf, De Maelor, Erbistog, Glyntraean, Hanmer, Holt, Is-y-coed, Llangollen Wledig, Llansantffraid Glynceiriog, Marchwiail, Mwynglawdd, Owrtun, Saltney, Sesswick, Willington,Worthenbury, Yr Orsedd.
Brynffordd, Chwitfordd, Helygain, Llanfynydd, Mostyn, Sealand, a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd: Caerwys, Cilcain, Llanasa, Nannerch, Nercwys, Trelawnyd a Gwaunysgor, Treuddyn, Ysgeifiog.
Bodedern, Bodffordd, Bryngwran, Llanfihangel Ysgeifiog, Llangristiolus, Llannerch-y-medd, Mechell, Penmynydd, Rhos-y-bol, Tref Alaw, Trewalchmai; a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn: Aberffro, Biwmares, Bodorgan, Cwm Cadnant, Cylch-y-Garn, Llanbadrig, Llanddaniel-fab, Llanddona, Llanddyfnan, Llaneilian, Llaneugrad, Llanfachraeth, Llanfaelog, Llanfaethlu, Llanfair-yn-neubwll, Llangoed, Llanidan, Moelfre, Pentraeth, Rhosyr, Trearddur, Y Fali.