
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2003 ac maent yn dod i rym ar 6 Mawrth 2003.
(2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Ni fydd y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn cysylltiad ag ariannu ysgolion a gynhelir yn yr un flwyddyn ariannol sydd yn dechrau cyn 1 Ebrill 2003.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 fel y canlyn.
(2) Ym mharagraff 40A(1) o Atodlen 2), yn lle “and 1st April 2002” rhowch “, 1st April 2002 and 1st April 2003”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Mawrth 2003