
1 

(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 11) (Cymru) 2003.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “Deddf” (“Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
 ystyr “Cyngor” (“Council”) yw Cyngor Gofal Cymru a sefydlwyd gan adran 54(1)(b) o'r Ddeddf.
(3) Mae'r gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2 

(1) Y diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym adran 116 o'r Ddeddf a pharagraff 26(1) a (3) o Atodlen 4 iddi i'r graddau maent yn mewnosod “68” yn adran 9(2)(d) o Ddeddf Diogelu Plant 1999 yw trannoeth y diwrnod y mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud.
(2) 1 Ebrill 2003 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—
(a) adran 57 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b) adran 60(b) i'r graddau y mae'n ymwneud â rheolau'r Cyngor o ran y dystiolaeth ddogfennol a thystiolaeth arall sydd i'w dangos gan y rheiny sy'n gwneud cais i gofrestru ac nad yw eisoes mewn grym;
(c) adran 104(1) i'r graddau y mae'n berthnasol i—
(i) adran 104(2)(b) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 113(3E)(b) yn Neddf yr Heddlu 1997;
(ii) adran 104(3)(a) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 115(5)(eb) yn Neddf yr Heddlu 1997.
(3) 30 Ebrill 2003 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym darpariaethau canlynol y Ddeddf—
(a) adran 116 ac Atodlen 4 iddi i'r graddau maent yn ymwneud â pharagraff 27 o'r Atodlen hwnnw;
(b) adran 117(2) ac Atodlen 6 iddi i'r graddau maent yn ymwneud â Deddf Fabwysiadu (Agweddau Rhyngwladol) 1999.
(4) 1 Mehefin 2003 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym adrannau 56, 58 i 60, 62, 64(2) i (5), 65, 68 a 69 o'r Ddeddf i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Mawrth 2003