
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2003.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001.
2 

(1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 5(2), dilëir paragraff (ch).
(3) Yn rheoliad 8(1) yn lle “30 diwrnod” rhoddir “60 diwrnod”.
(4) Yn rheoliad 8(2), dilëir paragraff (ch).
(5) Yn rheoliad 8(3) yn lle “ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ” rhoddir “yn y cyfeiriad a nodir yn y penderfyniad a roddir o dan reoliad 7(2) uchod”.
(6) Yn rheoliad 11(1) yn lle “30 diwrnod” rhoddir “60 diwrnod”.
(7) Yn rheoliad 11(3) yn lle “ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ” rhoddir “yn y cyfeiriad a nodir yn y penderfyniad a roddir o dan reoliad 10(2) uchod”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Chwefror 2003