
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
(3) Dirymir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Cofrestr” (“Register”) yw'r gofrestr ddisgyblion a gedwir o dan adran 434 o Ddeddf 1996 ac yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995);
 ystyr “cyfeirnod gweithgaredd dysgu” (“learning activity reference”) yw cyfuniad o rifau sydd ynghyd â llythyren yn cael eu dyrannu i gwrs astudiaeth neu weithgaredd dysgu arall ac sy'n benodol i'r cwrs hwnnw neu'r gweithgaredd dysgu hwnnw, ac a benderfynwyd gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “disgybl chweched dosbarth” (“sixth form pupil”) yw disgybl y caiff Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant dalu grant mewn perthynas â'i addysg i'r awdurdod addysg lleol o dan adran 36 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000;
 ystyr “dyddiad gwahardd parhaol” (“permanent exclusion date”) yw'r dyddiad y caiff enw disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol ei ddileu o'r gofrestr;
 mae i “plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “child looked after by a local authority” gan adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989;
 ystyr “Rhif unigryw disgybl” (“unique pupil number”) yw cyfuniad o rifau sydd ynghyd â llythyren neu lythrennau yn cael eu dyrannu i ddisgybl ac sy'n benodol i'r disgybl hwnnw, drwy ddefnyddio fformiwla a benderfynwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “wedi'i wahardd yn barhaol” (“permanently excluded”) mewn perthynas â disgybl yw disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol o'r ysgol am resymau disgyblu;ac
 mae i “ysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special school” gan adran 337 o Ddeddf 1996.
3 
O fewn 14 diwrnod ar ôl cael cais yn ysgrifenedig gan yr awdurdod addysg lleol y cynhelir ysgol ganddo, rhaid i'r corff llywodraethu roi i'r awdurdod y cyfryw wybodaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn ag y gofynnir amdani.
4 

(1) At ddibenion adran 537A(4) o Ddeddf 1996, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhagnodi'r personau canlynol fel personau y caiff ddarparu gwybodaeth am ddisgyblion unigol iddynt—
(a) unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (2) isod; a
(b) unrhyw berson sy'n perthyn i'r categori y cyfeirir ato ym mharagraff (3) isod.
(2) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) uchod yw —
(a) yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi, neu, yn achos ysgol na chynhelir mohoni felly, awdurdod addysg lleol yr ardal y lleolir yr ysgol ynddi, y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi;
(b) Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;
(c) Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru; ac
(ch) y cwmnïau Gyrfa Cymru a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru o dan adrannau 2, 8, 9 a 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973.
(3) Y categori y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) uchod yw'r categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol disgyblion ac y mae'n ofynnol iddynt gael gwybodaeth am ddisgyblion unigol at y diben hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Rhagfyr 2003
YR ATODLEN
Rheoliad 3
RHAN 1
1 
Yr wybodaeth ganlynol am y disgybl —
(a) Rhif unigryw cyfredol y disgybl, ac os bu gan yr ysgol rif unigryw disgybl blaenorol ar gyfer y disgybl hwnnw, y Rhif blaenorol;
(b) cyfenw;
(c) enw cyntaf y disgybl, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;
(ch) enw canol y disgybl, neu bob enw canol os oes mwy nag un;
(d) rhyw;
(dd) dyddiad geni;
(e) grŵp ethnig;
(f) hunaniaeth genedlaethol;
(ff) dyddiad derbyn y disgybl i'r ysgol; a
(g) grŵp blwyddyn y Cwricwlwm Cenedlaethol yr addysgir y disgybl ynddo.
2 
Cod post y cartref lle mae'r disgybl fel arfer yn preswylio.
3 
A yw'r wybodaeth am grŵp ethnig y disgybl a ddarparwyd yn rhinwedd yr Atodlen hon yn cael ei darparu gan —
(a) y disgybl;
(b) rhiant;
(c) yr ysgol;
(ch) cyn ysgol; neu
(d) unrhyw ffynhonnell arall.
4 
Pa mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg.
5 
A yw'r disgybl yn siarad Cymraeg yn y cartref ac, os felly, gyda phwy.
6 
A yw'r disgybl yn astudio'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith.
7 
A gafodd yr wybodaeth am lefel rhugledd y disgybl yn y Gymraeg a faint o Gymraeg y mae'r disgybl yn ei siarad gartref a ddarparwyd yn rhinwedd y Rhan hon ei darparu gan —
(a) y disgybl;
(b) rhiant;
(c) yr ysgol;
(ch) cyn ysgol; neu
(d) unrhyw ffynhonnell arall.
8 
A yw'r disgybl yn astudio unrhyw bwnc, heblaw'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith, drwy gyfrwng y Gymraeg.
9 
A yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(3) a 512ZB o Ddeddf 1996, wedi gwneud cais ac wedi'i gael yn gymwys i gael prydau am ddim yn yr ysgol.
10 
A yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(1) a 512ZB o Ddeddf 1996, wedi gwneud cais ac wedi'i gael yn gymwys am laeth am ddim yn yr ysgol.
11 
A oes gan y disgybl anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarhnad o —
(a) brif angen y disgybl ac unrhyw angen eilaidd a nodwyd; a
(b) y math o ddarpariaeth AAA sy'n rhan o'r ymagwedd raddedig a fabwysiadwyd yn unol â “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru”, a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002, sy'n cael ei wneud i'r disgybl hwnnw.
12 
Lle mae'r disgybl, hyd eithaf gwybodaeth y corff llywodraethu, yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, y ffaith honno ac enw'r awdurdod lleol hwnnw.
13 
A yw'r disgybl, hyd eithaf gwybodaeth y corff llywodraethu, wedi bod yn blentyn sy'n derbyn gofal yr awdurdod lleol tra bu ar Gofrestr yr ysgol, ac, os felly, enw'r awdurdod lleol yr oedd y disgybl yn derbyn gofal ganddo yn fwyaf diweddar.
14 
Yn achos ysgol arbennig nad yw'n ysgol arbennig a sefydlwyd mewn ysbyty a yw'r disgybl yn byrddio yn yr ysgol ac os felly, a yw'r disgybl yn byrddio am saith noson yr wythnos neu am lai na saith noson yr wythnos.
15 
A yw'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol neu fwy nag un ysgol, a lle mae'r disgybl wedi'i gofrestru fel disgybl mewn mwy nag un ysgol, a yw'r wybodaeth yn cael ei llunio gan yr ysgol y mae'r disgybl yn mynd iddi am y rhan fwyaf o'i amser.
16 
A yw'r disgybl yn ddisgybl rhan-amser, ac at ddibenion y paragraff hwn, ystyr “rhan-amser” yw bod y disgybl yn mynychu llai na deg sesiwn ysgol mewn unrhyw wythnos pan fydd yr ysgol yn cyfarfod.
17 
Yn achos ysgol nad yw'n ysgol arbennig, a yw'r disgybl yn cael addysg —
(a) mewn dosbarth meithrin;
(b) mewn dosbarth arbennig a ddynodwyd felly gan yr awdurdod addysg lleol neu a drefnwyd felly gan yr ysgol; neu
(c) mewn dosbarth prif ffrwd nad yw wedi'i ddynodi yn ddosbarth arbennig gan yr awdurdod addysg lleol neu a drefnwyd fel dosbarth arbennig gan yr ysgol.
RHAN 2
1 
Yr wybodaeth ganlynol am bob disgybl chweched dosbarth yn yr ysgol —
(a) a yw'r disgybl yn astudio tuag at Gymhwyster Bagloriaeth Cymru; a
(b) teitl pob cwrs neu weithgaredd dysgu arall y mae'r disgybl yn ei astudio.
2 
Mewn perthynas â phob cwrs neu weithgaredd dysgu arall y mae'r disbygl yn ei astudio —
(a) cyfeirnod y gweithgaredd dysgu;
(b) y dyddiad y ddechreuodd y disgybl y gweithgaredd dysgu;
(c) y dyddiad y disgwylir i'r gweithgaredd dysgu ddod i ben;
(ch) enw darparwr y gweithgaredd dysgu;
(d) a ddarperir y gweithgaredd dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, drwy gyfrwng y Saesneg, neu'n ddwyieithog drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg; ac
(dd) a oes gan y disgybl anhawster dysgu neu anabledd, neu'r ddau, ac os felly a yw'r disgybl yn ymgymryd â gweithgaredd dysgu ar wahân neu weithgaredd dysgu prif ffrwd.
RHAN 3
1 
Yr wybodaeth ganlynol am bob disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol o'r ysgol ac yr oedd ei ddyddiad gwahardd parhaol yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Awst cyn y dyddiad y gwneir y cais am wybodaeth arno —
(a) Rhif unigryw disgybl cyfredol;
(b) cyfenw;
(c) enw cyntaf y disgybl, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;
(ch) enw canol y disgybl, neu bob enw canol os oes mwy nag un;
(d) rhyw;
(dd) dyddiad geni; ac
(e) y dyddiad y dechreuodd y gwaharddiad parhaol.