
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 12 Rhagfyr 2003.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Mae Rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) yn cael ei ddiwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (1) mewnosodwch y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor —“
 “Local Health Board” has the meaning assigned to it by section 16BA of the Act;”.
(3) Ar ôl paragraff (1B), mewnosodwch y paragraff canlynol —“
(1C) In the application of these Regulations in relation to Wales “Health Authority” shall, in each place where these words occur, have effect as if there were substituted in the words “Local Health Board”.”
3 
Yn rheoliad 12 o'r prif Reoliadau (penderfynu ceisiadau o ran lleoliadau a reolir), yn is-baragraff 1(d) yn lle “FHSA”, ym mhob man lle mae'r talfyriad hwn yn digwydd, rhodder y geiriau “Local Health Board”.
4 
Yn rheoliad 13 o'r prif Reoliadau (apelau mewn cysylltiad â phenderfyniadau o dan reoliad 12), yn is-baragraff 2(a) yn lle “FHSA”, ym mhob man lle mae'r talfyriad hwn yn digwydd, rhodder y geiriau “Local Health Board”.
5 
Yn rheoliad 18B o'r prif Reoliadau (y cynllun gwobrwyo), ym mharagraff (1)—
(a) yn is-baragraff (i)—
(i) yn lle “immediately informed” rhowch “informed”, a
(ii) ar ôl y geiriau “of this action” mewnosodwch “as soon as practicable”;
(b) yn is-baragraff (ii)—
(i) ar ôl “but” rhowch “had reason to believe at that time or”, a
(ii) yn lle “within the period of 14 days beginning with the date the order was presented” rhowch “as soon as practicable”; ac
(c) ar ddiwedd y geiriau cloi, ychwanegwch “which has thereafter established that the order referred to in this paragraph was not a genuine order for the person named on the prescription form”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Rhagfyr 2003