
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cymeriad Crefyddol Ysgolion) (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
(a) ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
(b) ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
(c) ystyr “y grefydd berthnasol neu'r enwad crefyddol perthnasol” (“the relevant religion or religious denomination”) yw'r grefydd neu'r enwad crefyddol (neu bob un o'r crefyddau neu'r enwadau crefyddol hyn) y darperir addysg neu y bydd yn rhaid ei ddarparu yn yr ysgol neu y rheolir yr ysgol yn unol â'u daliadau.
(ch) ystyr “adran 69(3)” (“section 69(3)”) yw adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel y mae'n gymwys i ysgolion annibynnol.
3 
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn mewn cysylltiad â —
(a) dynodi, mewn gorchymyn o dan adran 69(3), ysgol annibynnol yn ysgol grefyddol ei chymeriad; a
(b) datgan yn y gorchymyn hwnnw, mewn perthynas â'r ysgol honno, y grefydd berthnasol neu'r enwad crefyddol perthnasol.
4 

(1) Er mwyn i ysgol annibynnol gael ei dynodi yn ysgol grefyddol ei chymeriad, rhaid i berchennog yr ysgol wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am orchymyn o dan adran 69(3).
(2) Rhaid i'r cais —
(a) datgan crefydd berthnasol neu enwad crefyddol perthnasol yr ysgol;
(b) cynnwys y sail dros wneud y cais ynghyd ag unrhyw dystiolaeth sy'n cefnogi'r sail honno; ac
(c) cynnwys unrhyw sylwadau a wneir gan gorff crefyddol ar ran yr ysgol.
(3) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cael cais am orchymyn, o dan y Rheoliadau hyn, caiff ymgynghori ag unrhyw gorff crefyddol y mae'n ei farnu'n briodol ynghylch cais yr ysgol.
5 

(1) Os bydd perchennog ysgol yn gwneud cais am orchymyn o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddynodi'r ysgol yn ysgol grefyddol ei chymeriad os —
(a) yw'n fodlon y rheolir yr ysgol neu fod yr addysg a ddarperir yn yr ysgol yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol; a
(b) bod rhai neu'r cyfan o'r tiroedd a'r adeiladau a feddiennir gan yr ysgol ar hyn o bryd wedi'u darparu ar ymddiried mewn cysylltiad â —
(i) darparu addysg, neu
(ii) rheoli sefydliad addysgol
yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol; neu
(c) bod o leiaf un aelod o'r corff llywodraethu yn berson a benodwyd yn llywodraethwr i gynrychioli buddiannau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol; neu
(ch) bod offeryn llywodraethu'r ysgol yn darparu —
(i) y rheolir yr ysgol yn unol â daliadau un neu ragor o grefyddau neu enwadau crefyddol; neu
(ii) y darperir yr addysg yn yr ysgol yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol.
(2) Os yw perchennog ysgol yn gwenud cais am orchymyn yn unol â'r Rheoliadau yma, ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys, mi all y Cynulliad Cenedlaethol serch hynny ddynodi ysgol sydd â chymeriad crefyddol os yw yn ei ystyried yn addas i wneud hynny, gan ystyried y canlynol—
(a) p'un a yw'r ysgol yn cael ei rheoli yn unol â daliadau un neu ragor o grefyddau neu enwadau crefyddol;
(b) p'un a yw'r addysg yn yr ysgol yn cael ei darparu yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol; ac
(c) unrhyw sylwadau a wneir gan gorff crefyddol ar ran yr ysgol.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn nid yw unrhyw gyfeiriad at addysg mewn ysgol yn cael ei darparu yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol yn ei gwneud yn ofynnol i'r holl addysg gael ei gwneud yn unol â'r daliadau crefyddol hynny.
6 

(1) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg o'r farn bod gorchymyn a wnaed yn flaenorol o dan adran 69(3) yn cynnwys camgymeriad perthnasol, neu y methyd yn anghywir i ddynodi unrhyw ysgol; mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud pa bynnag orchymyn o dan yr adran honno y mae'n ystyried yn briodol at ddibenion cywiro'r camgymeriad.
(2) Cyn gwneud gorchymyn o dan baragraff (1) sydd yn effeithio dynodiad ysgol arbennig neu'r datganiad o grefydd priodol neu enwad crefyddol mewn perthynas â ysgol arbennig, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori gyda pherchennog yr ysgol honno, a gall ymgynghori gydag unrhyw gorff crefyddol y mae'n ystyried yn briodol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Rhagfyr 2003