
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.
2 
Mae'r Rheoliadau yma yn gymwys i Gymru.
3 
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw arolygiad cyn 1 Ionawr 2006 o ysgol a oedd ar 31 Rhagfyr 2003 wedi'i chofrestru dros dro yn unol ag adran 465(3) o Ddeddf Addysg 1996.
4 
Pan fydd yr awdurdod cofrestru yn ei gwneud yn ofynnol bod yr adroddiad arolygu a wnaed o dan adran 163(3)(a) o Ddeddf Addysg 2002 cael ei gyhoeddi, rhaid i'r person a gynhaliodd yr arolygiad —
(a) anfon copi o'r adroddiad arolygu, ac unrhyw grynodeb o'r adroddiad hwnnw at y perchennog, a
(b) rhoi copi o'r adroddiad arolygu, ac unrhyw grynodeb o'r adroddiad hwnnw, ar y rhyngrwyd ar ei wefan.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Rhagfyr 2003