
1 
Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru'n unig, yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 11 Rhagfyr 2003.
2 

(1) Mae Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (4) o reoliad 1:
(a) Ar y dechrau, mewnosodwch y canlynol—“
(a) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (b)”.
(b) Ar y diwedd, ychwanegwch y canlynol—“
(b) Yn Rhan 2 o'r Atodlen, mae'r cyfeiriad at Aquila Networks plc yn gyfeiriad at gwmni ac iddo'r enw hwnnw ar 10 Mai 2002.”.
(3) Yn Rhan 2 o'r Atodlen, ac yn effeithiol o 1 Tachwedd 2001 ymlaen, rhowch “Aquila Networks plc” yn lle “Midlands Electricity plc”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Rhagfyr 2003