
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (Ardollau) 2003 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2003.
2 
Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—
 ystyr “y Cynghorau Cyfansoddol” (“the Constituent Councils”) yw Cyngor Sir Abertawe, Cyngor Sir Caerdydd, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;
 ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2003;
 ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cyrff Ardolli (Cyffredinol) 1992;
 ystyr “y Pwyllgor” (“the Committee”) yw Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru a sefydlwyd o dan Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966; ac
 ystyr “Rhondda Cynon Taf” (“Rhondda Cynon Taf”) yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
3 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r Pwyllgor, i'r Cynghorau Cyfansoddol ac i Rhondda Cynon Taf am y flwyddyn ariannol yn cychwyn ar 1 Ebrill 2003.
4 

(1) Er gwaethaf rheoliad 8 o'r Prif Reoliadau, awdurdodir y Pwyllgor gan y Rheoliadau hyn i gyflwyno:
(a) ardollau wedi'u hamnewid (yr ardollau newydd) i'r Cynghorau Cyfansoddol i gymryd lle'r ardollau hynny a gyflwynwyd ganddo ar 11 Chwefror 2003 (yr hen ardollau); a
(b) ardoll wedi'i hamnewid am ddim punnoedd i Rhondda Cynon Taf i gymryd lle'r ardoll a gyflwynwyd ar 11 Chwefror 2003;
erbyn 14 Chwefror 2004 fan bellaf i alluogi'r Pwyllgor, y Cynghorau Cyfansoddol a Rhondda Cynon Taf i gydymffurfio â'r Gorchymyn.
(2) Os bydd y Pwyllgor yn cyflwyno ardollau newydd yn unol â'r Rheoliadau hyn, rhaid i unrhyw symiau a dalwyd iddo mewn perthynas â'r hen ardollau gael eu trin fel petaent wedi'u talu mewn perthynas â'r ardollau newydd.
5 
Dirymir Rheoliadau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (Ardollau) 2001.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Tachwedd 2003