
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol) (Pensiynau) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “aelodau” (“members”) yw cynghorwyr awdurdod gan gynnwys maer etholedig awdurdod sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol ar ffurf sy'n cynnwys maer etholedig;
 ystyr “awdurdod” (“authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
 ystyr “lwfansau cyfrifoldeb arbennig” (“special responsibility allowances” ) yw lwfansau fel y'u diffinnir yn rheoliad 8 o Reoliadau 2002;
 ystyr “lwfansau sylfaenol” (“basic allowances”) yw lwfansau fel y'u diffinnir yn rheoliad 7 o Reoliadau 2002;
 ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002.
3 

(1) Caiff awdurdod —
(a) penderfynu pa aelodau o'r awdurdod sydd â'r hawl i bensiynau yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol 1997; a
(b) darparu mewn perthynas â'r aelodau hynny y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (a) fod lwfansau sylfaenol a lwfansau cyfrifoldeb arbennig yn cael eu trin fel symiau y mae pensiynau yn daladwy mewn perthynas â hwy.
(2) Rhaid i awdurdod, wrth iddo wneud unrhyw benderfyniad yn unol â'r rheoliad hwn, wneud hynny yn unig ar gyfer aelod sydd wedi'i gymeradwyo'n gyntaf gan Banel Taliadau Annibynnol Cymru fel un sy'n gymwys i gael hawl o'r fath, o dan reoliad 5.
4 

(1) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benodi panel taliadau annibynnol dros dro, a elwir Panel Taliadau Annibynnol Cymru yn unol â'r Rheoliad hwn ar gyfer pob awdurdod.
(2) Rhaid i Banel Taliadau Annibynnol Cymru fodoli am gyfnod o chwe mis gan ddechrau o ddyddiad ei sefydlu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3) Rhaid i Banel Taliadau Annibynnol Cymru gynnwys o leiaf dri aelod a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan gynnwys un aelod a benodwyd yn gadeirydd.
(4) Ni chaiff unrhyw un o'r aelodau a benodir yn unol â pharagraff (3) fod —
(a) yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Ty'r Cyffredin, Ty'r Arglwyddi, Senedd Ewrop, awdurdod, cyngor tref neu gyngor cymuned; neu
(b) wedi'i anghymhwyso rhag bod neu ddod yn aelod o awdurdod ac eithrio fel swyddog sy'n cael ei gyflogi gan awdurdod lleol.
(5) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru dalu'r treuliau y mae Panel Taliadau Annibynnol Cymru yn eu tynnu wrth gyflawni ei swyddogaethau a chaiff dalu aelodau'r panel y lwfansau neu'r treuliau y bydd yn penderfynu arnynt.
(6) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drefnu bod cymorth gweinyddol priodol ar gael i Banel Taliadau Annibynnol Cymru.
5 

(1) Rhaid i Banel Taliadau Annibynnol Cymru lunio adroddiad mewn perthynas â phob awdurdod, gan gyflwyno argymhellion ynghylch pa aelodau awdurdod a ddylai gael hawl i bensiynau yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol 1997.
(2) Caiff Panel Taliadau Annibynnol Cymru, wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan baragraff (1), ofyn i unrhyw gorff neu berson am wybodaeth neu gyngor.
(3) Caiff Panel Taliadau Annibynnol Cymru gyflwyno gwahanol argymhellion ynglyn â phob un o'r awdurdodau y mae'n arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â hwy.
6 

(1) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon copi o'r adroddiad a wneir o dan reoliad 5(1) i bob awdurdod cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael yr adroddiad.
(2) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru:
(a) cyhoeddi'r manylion am yr adroddiad a wneir o dan reoliad 5(1) mewn un neu ragor o bapurau newydd sy'n cylchredeg ledled Cymru; a
(b) cynnwys yn y cyhoeddiad o dan is-baragraff (a) ddatganiad y bydd copïau o'r adroddiad ar gael i aelodau'r cyhoedd ym mhrif swyddfeydd yr awdurdodau ar yr adegau a bennir gan yr awdurdodau hynny.
(3) Rhaid i bob awdurdod sicrhau bod y canlynol yn cael ei wneud cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael adroddiad Panel Taliadau Annibynnol Cymru o dan reoliad 5(1):
(a) bod copïau ar gael i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd ym mhrif swyddfa'r awdurdod ar yr adegau rhesymol a bennir gan yr awdurdod; a
(b) bod copi yn cael ei ddarparu i unrhyw berson sy'n gofyn amdano ac sy'n talu i'r awdurdod y ffi resymol y bydd yr awdurdod yn penderfynu arni.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Tachwedd 2003