
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygidau Canlyniadol) (Rhif 2) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 19 Tachwedd 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau, yn ôl eu trefn, at adrannau o Ddeddf 2002 a'r Atodlenni iddi.
3 
Mae adran 45A o Ddeddf 1998, a fewnosodir gan adran 41(1)), i fod yn effeithiol yn y cyfnod sy'n dod i ben yn union o flaen 1 Ebrill 2004 yn unig at ddibenion cyllido ysgolion mewn unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
4 
Nid yw'r diwygiad a wneir gan adran 41(2) i adran 45(2) o Ddeddf 1998 i fod yn gymwys mewn perthynas â chyfran cyllideb ysgol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2004.
5 
Er gwaethaf dwyn i rym y diddymiad o adran 46 o Ddeddf 1998 a'r diwygiadau canlyniadol i adrannau 49(4) a 143 o'r Ddeddf honno ac i adran 36 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (a wnaed gan adrannau 41(3) a 215, a pharagraffau 100(1) a (2), 113 a 125 o Atodlen 21 a Rhan 3 o Atodlen 22) nid yw—
(a) diddymiad adran 46 o Ddeddf 1998,
(b) amnewid “LEA budget or schools budget” yn lle “local schools budget” yn adran 49(4) o Ddeddf 1998,
(c) amnewid “section 45A(3)” yn lle “section 46(2)” yn y cofnod sy'n dechrau “individual schools budget” yn adran 143 o Ddeddf 1998,
(ch) diddymu'r cofnod sy'n ymwneud â chyllideb ysgolion lleol yn adran 143 o Ddeddf 1998, a
(d) amnewid “schools budget” a “Schools budget” yn lle “local schools budget” a “Local schools budget” yn is-adran (1)(a) a (3) o adran 36 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000,i fod yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004.
6 
Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 9 Ionawr 2004 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y daw adran 52(11) i rym mewn perthynas â Chymru, mae cyfeiriadau yn adran 52 ) at ysgol a gynhelir i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at ysgol a gynhelir fel y diffinnir “maintained school” yn adran 20(7) o Ddeddf 1998.
7 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os gwaherddir disgybl cyn 9 Ionawr 2004 gan bennaeth ysgol a gynhelir neu (yn ôl y digwydd) athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion.
(2) Er gwaethaf dwyn i rym —
(a) adran 52(1) i (6), a
(b) diddymu adrannau 64 i 68 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 18 iddi,
mae'r darpariaethau canlynol, sef —
(i) adrannau 64 i 68 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 18 iddi, a
(ii) Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Apelau yn erbyn Gwaharddiadau Parhaol) (Cymru) 2003,i barhau i gael effaith, fel y bo'n briodol, mewn perthynas â gwaharddiad y mae paragraff (1) yn gymwys iddo.
8 

(1) Er gwaethaf dwyn i rym adran 165, ni fydd yr adran honno (ac eithrio is-adrannau (1), (2), (12) a (13)) yn gymwys tan 1 Ionawr 2006 i unrhyw ysgol a gofrestrwyd dros dro yn unol ag adran 465(3) o Ddeddf 1996 ar 31 Rhagfyr 2003.
(2) Er gwaethaf diddymu darpariaethau yn adrannau 10(3), (4B), 11(5), 20(3), 21(4) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996) a darpariaethau ym mharagraff 1 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, os dyfarnwyd contract o ganlyniad i wahoddiad i dendro o dan baragraff 2 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno cyn 1 Ionawr 2004 i arolygu ysgol annibynnol a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 347(1) o Ddeddf 1996 —
(a) caniateir cyflawni'r arolygiad yn unol â'r contract, a
(b) os cyflawnir yr arolygiad yn unol â'r contract, mae adran 10, a Phennod II o Ran 1 o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996, ac Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, i barhau i fod yn gymwys mewn perthynas â'r archwiliad hwnnw.
(3) Er gwaethaf dwyn i rym adran 172, nid yw amnewid adran 463 o Ddeddf 1996 i fod yn gymwys tan 1 Medi 2004 mewn perthynas â chartref plant o fewn ystyr adran 1(6) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 os dyfarnwyd cais am gofrestru o dan adran 13 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 i redeg y cartref plant cyn 1 Ionawr 2004.
9 
Er gwaethaf dwyn i rym y diddymiad o adran 492 o Ddeddf 1996, yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 9 Ionawr 2004 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y daw'r rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 207 i rym, mae Rheoliadau Addysg (Adennill Rhwng Awdurdodau) 1994 i barhau i gael effaith mewn perthynas â Chymru fel pe baent wedi'u gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 207 ac fel pe rhoddwyd yn lle'r geiriau “the Secretary of State” yn rheoliad 3(2)(b) y geiriau “the National Assembly for Wales”.
10 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) hepgorer y diffiniad o “qualified teacher” ac ar ôl y diffiniad o “school” rhodder y diffiniad canlynol —“
 “school teacher” has the meaning given by section 4 of the 1998 Act;”.
(3) Yn rheoliad 3(2) a (3) rhodder yn lle'r geiriau “qualified teacher” y geiriau “school teacher”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Tachwedd 2003