
RHAN 1
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 13 Tachwedd 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “aelod o'r tu allan i'r ysgolion” (“non-schools member”), o ran fforwm ysgolion, yw aelod nad yw'n aelod ysgolion;
 ystyr “aelod ysgolion” (“schools member”), o ran fforwm ysgolion, yw aelod a etholir i gynrychioli cyrff llywodraethu neu benaethiaid ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol;
 ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”), o ran fforwm ysgolion, yw'r awdurdod addysg lleol sydd yn sefydlu'r fforwm;
 ystyr “corff perthnasol” (“relevant body”) yw unrhyw gorff (gan gynnwys unrhyw gorff neu berson y cyfeirir atynt yn rheoliad 5(4)(a), (b) ac (c) a'r awdurdod ei hunan ond heb gynnwys Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant) a enwir gan yr awdurdod perthnasol fel un y mae'n briodol ei gynrychioli yn y fforwm;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 ystyr “y meini prawf cymhwyso” (“the eligibility criteria”) yw'r meini prawf a bennir gan yr awdurdod perthnasol yn feini prawf y mae'n rhaid i rywun eu bodloni os yw am fod yn gymwys i gael ei enwebu gan y corff perthnasol dan sylw ar gyfer cael ei benodi i'r fforwm ysgolion a sefydlir gan yr awdurdod hwnnw; ac
 ystyr “ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol” (“schools maintained by the relevant authority”) yw pob ysgol gymunedol, ysgol arbennig gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol arbennig sefydledig, ac ysgol wirfoddol a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, nid yw cyfeiriad at gorff llywodraethu yn cynnwys cyfeiriad at gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd (o fewn ystyr adran 72(3) o Ddeddf 1998) ac nid yw cyfeiriad at lywodraethwr yn cynnwys cyfeiriad at aelod o gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd.
RHAN 2
2 
Rhaid i bob awdurdod addysg lleol, yn unol â'r Rheoliadau hyn, sefydlu fforwm ysgolion i'w ardal erbyn 15 Rhagfyr 2003.
3 

(1) Rhaid bod o leiaf 15 o aelodau mewn fforwm wedi eu penodi gan yr awdurdod perthnasol.
(2) Ni chaiff yr awdurdod perthnasol benodi mwy na chwarter holl aelodau'r fforwm yn aelodau o'r tu allan i'r ysgolion i gynrychioli cyrff perthnasol.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r fforwm gynnwys aelodau ysgolion yn unig.
(4) Rhaid i aelodau ysgolion ac aelodau o'r tu allan i'r ysgolion gael eu penodi drwy offeryn ysgrifenedig i fod yn aelod am dymor a bennir yn yr offeryn hwnnw.
(5) Caiff yr awdurdod perthnasol ddod ag aelodaeth unrhyw aelod ysgolion i ben cyn i'w dymor aelodaeth ddod i ben os nad yw'r aelod dan sylw bellach yn bennaeth neu yn llywodraethwr yr ysgol a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol y bu'n gymwys i gael ei benodi i'r fforwm o'i herwydd.
(6) Caiff yr awdurdod perthnasol ddod ag aelodaeth unrhyw aelod o'r tu allan i'r ysgolion i ben os nad yw bellach yn bodloni'r meini prawf cymhwyso y bu'n gymwys i gael ei enwebu ar gyfer ei benodi i'r fforwm o'u herwydd.
4 

(1) Rhaid i'r awdurdod perthnasol benodi, i fod yn aelodau ysgolion, gynrychiolwyr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol sydd wedi eu hethol yn unol â gweithdrefnau a bennir gan yr awdurdod perthnasol.
(2) Wrth bennu'r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) —
(a) rhaid i'r awdurdod perthnasol wneud trefniadau er mwyn sicrhau bod aelodau ysgolion yn cynnwys nifer gyfatebol o gynrychiolwyr ysgolion cynradd ac o gynrychiolwyr ysgolion uwchradd, wedi ystyried cyfanswm y disgyblion sydd yn yr ysgolion cynradd, cyfanswm y disgyblion sydd yn yr ysgolion uwchradd a chyfanswm yr aelodau ysgolion sydd i gael eu hethol o dan y gweithdrefnau hynny sydd i fod yn gynrychiolwyr ysgolion cynradd ac uwchradd;
(b) os yw'r awdurdod perthnasol yn cynnal un neu fwy o ysgolion arbennig, rhaid iddo sicrhau bod o leiaf un aelod ysgolion yn cynrychioli ysgol o'r fath; ac
(c) os yw'r awdurdod perthnasol yn cynnal ysgolion o wahanol gategorïau ysgol, rhaid i'r trefniadau a wneir gan yr awdurdod yn rhinwedd is-baragraff (a) sicrhau bod y cynrychiolwyr ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd a benodir ganddo yn cynnwys o leiaf un person sy'n gynrychiolydd ysgol ym mhob categori ysgol o'r fath.
(3) At ddibenion paragraff 2(c), mae'r canlynol yn gategorïau ysgol —
(a) ysgolion cymunedol;
(b) ysgolion sefydledig; ac
(c) ysgolion gwirfoddol.
(4) Rhaid i'r awdurdod perthnasol sicrhau i'r graddau y mae'n ymarferol bod o leiaf un aelod ysgolion yn rhiant-lywodraethwr.
(5) Yn y rheoliad hwn —
(a) ystyr “ysgol gynradd” (“primary school”) yw ysgol gynradd a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol ond heb gynnwys ysgol feithrin;
(b) ystyr “ysgol uwchradd” (“secondary school”) yw ysgol uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol;
(c) ystyr “cynrychiolwr” (“representative”) yw pennaeth neu lywodraethwr ysgol a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol;
(ch) ystyr “ysgol arbennig” (“special school”) yw ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig.
5 

(1) Os yw'r awdurdod perthnasol yn penderfynu penodi aelodau o'r tu allan i'r ysgolion yn aelodau'r fforwm, rhaid iddo ofyn i gyrff perthnasol am enwebiadau ar gyfer yr aelodau hynny.
(2) Ni chaiff corff perthnasol enwebu rhywun os nad yw'n bodloni'r meini prawf cymhwyso.
(3) O fewn mis ar ôl penodi unrhyw aelod a enwebwyd o dan baragraff (1), rhaid i'r awdurdod perthnasol roi gwybod i gorff llywodraethu pob ysgol y mae yn ei chynnal am enw'r aelod a'r corff perthnasol mewn cysylltiad â'r penodiad hwnnw.
(4) Wrth benodi aelodau o'r tu allan i'r ysgolion o dan baragraff (1), rhaid i'r awdurdod perthnasol, os yw o'r farn y byddai'n briodol, ofyn am enwebiadau —
(a) gan Fwrdd Addysg Esgobaethol unrhyw esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru y mae unrhyw ran ohoni yn ardal yr awdurdod perthnasol;
(b) gan esgob unrhyw esgobaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig y mae unrhyw ran ohoni yn ardal yr awdurdod perthnasol; ac
(c) gan undebau athrawon ac undebau llafur eraill y mae ganddynt aelodau sy'n gweithio yng Nghymru.
6 

(1) Mae'r fforwm â chworwm os yw o leiaf deugain y cant o'i holl aelodau yn bresennol mewn cyfarfod.
(2) Y fforwm sydd i ethol ei gadeirydd cyntaf a'i olynwyr.
(3) Bydd y cadeirydd yn dal y swydd am flwyddyn (ond ceir ei ailbenodi).
(4) Caiff Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant enwebu arsylwr a bydd yr hawl ganddo i fynychu holl gyfarfodydd y fforwm.
(5) Caiff yr awdurdod perthnasol os yw o'r farn y byddai'n briodol i gorff penodol gael yr hawl i fynychu cyfarfodydd y fforwm fel arsylwr, wahodd y corff hwnnw i enwebu person i fynychu cyfarfodydd y fforwm i'r diben hwnnw.
RHAN 3
7 

(1) Rhaid i'r awdurdod perthnasol ymgynghori â'r fforwm yn flynyddol —
(a) ar arfer swyddogaethau'r awdurdod perthnasol sy'n ymwneud â'i gyllideb ysgolion, a
(b) ar newidiadau rhagolygol i gynllun yr awdurdod perthnasol ar gyfer ariannu ysgolion.
(2) Caiff yr awdurdod perthnasol ymghynghori â'r fforwm ynghylch unrhyw faterion eraill o'r fath sy'n ymwneud ag ariannu ysgolion fel y mae'n gweld yn briodol.
8 

(1) Rhaid i'r awdurdod perthnasol ymgynghori â'r fforwm ynghylch:—
(a) unrhyw newidiadau arfaethedig mewn cysylltiad â'r materion a'r meini prawf a ystyriwyd, neu'r dulliau, yr egwyddorion a'r rheolau a fabwysiadwyd, yn ei fformiwla yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 47 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, a
(b) effaith ariannol tebygol unrhyw newid o'r fath.
(2) Rhaid i'r ymgynghori o dan baragraff (1) gael ei wneud gan roi digon o amser fel bo'r safbwyntiau a fynegwyd yn gallu cael eu hystyried wrth bennu fformiwla'r awdurdod perthnasol ac wrth wneud y penderfyniad cychwynnol ynghylch cyfrannau ysgolion o'r gyllideb cyn dechrau'r flwyddyn ariannol.
9 

(1) Rhaid i'r awdurdod perthnasol, o leiaf dri mis cyn cyhoeddi gwahoddiadau i dendro, ymgynghori â'r fforwm ynghylch amodau unrhyw gontract arfaethedig am gyflenwadau neu wasanaethau, a hwnnw'n gontract sydd wedi ei dalu neu sydd i'w dalu o'i gyllideb ysgolion os: —
(a) nad yw amcangyfrif gwerth contract gwasanaethau cyhoeddus arfaethedig yn llai na'r trothwy penodol sy'n gymwys i'r awdurdod perthnasol yn unol â Rheoliad 7(1) o Reoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993; neu
(b) nad yw amcangyfrif gwerth contract cyflenwi cyhoeddus arfaethedig yn llai na'r trothwy penodol sy'n gymwys i'r awdurdod perthnasol yn unol â Rheoliad 7(2) o Reoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995.
(2)  Rhaid i'r awdurdod perthnasol, o leiaf dri mis cyn y dyddiad pan fo'n bwriadu gwneud y cytundeb terfynol, ymgynghori â'r fforwm ynghylch amodau unrhyw gytundeb lefel gwasanaeth y byddai'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol yn cael nwyddau neu wasanaethau gan yr awdurdod oddi tano ac y byddai cost y nwyddau neu'r gwasanaethau yn cael eu talu (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) o gyfraniadau'r gyllideb ysgolion.
10 
Rhaid i'r fforwm, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, roi gwybod i gyrff llywodraethu'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol am bob ymgynghoriad a wnaed o dan y Rhan hon yn y rheoliadau hyn.
RHAN 4
11 
Yr awdurdod perthnasol sydd i dalu pob un o gostiau'r fforwm, a hynny o'i gyllideb ysgolion lleol tan 1 Ebrill 2004 ac o'i gyllideb AALl wedi hynny.
12 
Rhaid i'r awdurdod perthnasol dalu yn ôl i'r aelodau bob cost resymol sy'n deillio o fynychu cyfarfodydd y fforwm.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Tachwedd 2003