
1 
Ar gyfer y Rheoliadau hyn —
(a) eu henw fydd Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) (Diddymu) 2003;
(b) deuant i rym ar 30 Hydref 2003;
(c) byddant yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Drwy hyn dirymir Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2002.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Hydref 2003