
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 14 Tachwedd 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2 
Mae'r dosbarthiadau o leoedd tân a ddisgrifir yn yr Atodlen, ar yr amodau sy'n cael eu pennu yno, yn cael eu hesemptio o ddarpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (sydd yn gwahardd allyriannau mwg mewn ardaloedd rheoli mwg).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Hydref 2003
YR ATODLEN
Erthygl 2


Dosbarthiadau o leoedd tân Amodau
Y B9 Energy Wood Chip Gasifier Unit a gynhyrchir gan B9 Energy Biomass Limited, Unit 22, Northland Road Industrial Estate, Londonderry, Gogledd Iwerddon. 
1. 
Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i weithredu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr dyddiedig 2002 ac y mae arnynt y cyfeirnod “001/B9ENERGY BIOMASS”.
2. 
Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd heblaw sglodion o bren heb eu trin, ysgyrion o bren neu ddarnau bach o bren heb eu trin.
Modelau 110, 140, 180, 220, 280 a 350 o'r Mawera FU-RIA wedi'u cynhyrchu gan Mawera (UK) Limited, 31 Enterprise Industrial Park, Britannia Way, Caerlwytgoed, Swydd Stafford, Lloegr WS14 9UY. 
1. 
Rhaid i'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr dyddiedig 31 Hydref 2002 ac y mae arnynt y cyfeirnod “098234-01”.
2. 
Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd heblaw pren, cynhyrchion pren, gweddillion fforest, teneuon fforest, bwrdd sglodion MDF wedi'i orchuddio â melamin neu heb ei orchuddio, pren haenog, neu gynhyrchion pren cyfansawdd.