
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 1) 2003.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
(3) ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd (Cymru) 2003;
(4) ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) 20 Hydref 2003 yw'r dydd a bennwyd i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym at bob diben —
(i) adran 1 ac Atodlen 1;
(ii) paragraffau 5, 14 ac 16 o Atodlen 3 ac adran 7(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â hwy; a
(iii) adran 7(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 heblawr cyfeiriad at adran 22(4) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth lechyd Gwladol a Phroffesiynnau Gofal Iechyd 2002.
(2) Dim ond ynglŷn â Chymru y mae'r darpariaethau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yn cael eu dwyn i rym.
(3) Er gwaethaf diddymu Atodlen 7 i Ddeddf 1977, bydd Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 1996 a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymdeithas y Cynghorau Iechyd Cymuned) 1977 yn parhau i gael effaith.
3 

(1) 20 Hydref 2003 yw'r dydd a bennwyd i adrannau 2 a 3 o'r Ddeddf, a pharagraff 10 o Atodlen 2 iddi, ddod i rym at ddibenion gwneud rheoliadau yn unig.
(2) 1 Ebrill 2005 yw'r dydd a bennwyd i adrannau 2, 3 a 7(1) o'r Ddeddf, ac Atodlenni 2 a 3 o'r Ddeddf heblaw paragraff 16 o Atodlen 3, ddod i rym at bob diben sy'n weddill.
4 
20 Hydref 2003 yw'r dydd a bennwyd i adrannau 4, 5 a 6 o'r Ddeddf ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Hydref 2003