
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'n dweud fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001.
2 
Y diwrnod penodedig pan ddaw'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym yw 8 Hydref 2003.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Hydref 2003
YR ATODLEN
Erthygl 4


Y Ddarpariaeth Y Pwnc
Adran 14 Strategaethau a chynlluniau hygyrchedd
Adran 15 Strategaethau a chynlluniau hygyrchedd: gweithdrefn
Adran 22 (i'r graddau y mae'n rhoi'r pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i roi cyfarwyddiadau o dan adran 28M(1) neu (3) o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 neu yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfarwyddyd o'r fath) Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Cynulliad Cenedlaethol