
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (Cyfnodau Rhagnodedig ar gyfer Strategaethau a Chynlluniau Hygyrchedd ar gyfer Ysgolion) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 8 Hydref 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 
At ddibenion is-adrannau (1) ac (8) o adran 28D o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, rhaid paratoi strategaethau hygyrchedd a chynlluniau hygyrchedd bob tair blynedd.
3 
At ddibenion is-adrannau (2) a (9) o adran 28D o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, tair blynedd fydd y cyfnod rhagnodedig ym mhob achos, gan gychwyn ar 1 Ebrill a bydd cyfnod y strategaeth hygyrchedd cyntaf ac (yn ddarotyngedig i reoliad 4) y cynllun hygyrchedd gyntaf yn cychwyn ar 1 Ebrill 2004.
4 
Mewn perthynas ag ysgol sydd yn cael ei sefydlu wedi 1 Ebrill 2004, at ddibenion adran (9) o adran 28D o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, bydd cyfnod rhagnodedig cynllun hygyrchedd yr ysgol honno yn cychwyn ar y dyddiad y mae'r ysgol yn cael ei sefydlu ac yn gorffen ar y dyddiad y byddai'r cynllun hygyrchedd presennol wedi gorffen pe bai'r ysgol wedi ei sefydlu ar 1 Ebrill 2004, neu cyn hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Hydref 2003