
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 25 Medi 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;
 ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
 mae i “cylchrediad rhydd” yr un ystyr â “free circulation” yn Erthygl 23.2, o'i darllen ynghyd ag Erthygl 24, o'r Cytuniad a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd;
 ystyr “y Ddeddf (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990 ac eithrio lle mae'r cyd-destun yn mynnu fel arall ac yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr sydd i'r term Saesneg cyfatebol yn y Ddeddf;
 ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2003/460/EC ar fesurau brys ynghylch tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth fel y'i cywirwyd drwy gywiriad a gyhoeddwyd ar 25 Gorffennaf 2003;
 ystyr “tsilis poeth a chyhyrchion tsilis poeth” (“hot chilli and hot chilli products”) yw ffrwythau'r genws Capsicum, sydd wedi'u sychu a'u gwasgu neu wedi'u malu ac sy'n dod o dan god CN 0904 20 30 neu 0904 20 90; ac
 ystyr “tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth a reolir” (“controlled hot chilli and hot chilli products”) yw tsilis a chynhyrchion tsilis poeth sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl.
(2) Mae i unrhyw derm a ddefnyddir yn y diffiniad o “tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth” ym mharagraff (1) yr un ystyr â'r term cyfatebol ym Mhenderfyniad y Comisiwn.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb fewnforio i Gymru unrhyw dsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth oni bai —
(a) bod yr amodau a bennir yn Erthyglau 2.1 a 2.3, 3.1 a 3.4 o Benderfyniad y Comisiwn wedi'u bodloni mewn perthynas â'r cynhyrchion hynny; a
(b) bod y costau sy'n deillio o'u dadansoddi a'u storio wedi'u pennu yn Erthygl 6 o'r Penderfyniad wedi'u talu.
(2) Rhaid peidio â deall unrhyw beth ym mharagraff (1) fel petai'n gwahardd mewnforio i Gymru o Aelod-wladwriaeth unrhyw dsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth a reolir ac sydd mewn cylchrediad rhydd yn yr Aelod-wladwriaeth honno.
(3) Euog o dramgwydd yw unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (1), gan wybod hynny, ac mae'n agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am dymor nad yw'n hwy na thri mis.
(4) At ddibenion penderfynu a yw person yn euog neu beidio o dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i baragraff (3), rhaid rhagdybio, oni phrofir i'r gwrthwyneb, mai tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth a reolir yw unrhyw dsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth.
4 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dyletswydd pob awdurdod iechyd porthladd fydd gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw le nad yw o fewn ardal awdurdod iechyd porthladd, rhaid i'r awdurdod bwyd ar gyfer yr ardal y mae'r lle hwnnw ynddi weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.
(3) At ddibenion arfer y ddyletswydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) neu, yn ôl fel y digwydd, (2), rhaid i swyddog awdurdodedig yr awdurdod o dan sylw—
(a) sicrhau y glynir wrth y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (4); a
(b) bod â'r un pwerau mynediad ag a roddir i swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi o dan adran 32 o'r Ddeddf at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r Ddeddf neu Reoliadau neu Orchmynion a wnaed o dan y Ddeddf.
(4) Y gofynion yw'r gofynion a bennir yn —
(a) Erthygl 2.1 a 2.2 o Benderfyniad y Comisiwn (sy'n ymwneud â gwirio'r dogfennau sy'n berthnasol i lwythau o dsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth a reolir);
(b) Erthyglau 3 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud â samplu a dadansoddi'r llwythau hynny), ac eithrio'r gofyniad i roi gwybodaeth benodedig i'r Comisiwn; ac
(c) Erthygl 4 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud ag achosion lle mae llwythi wedi'u rhannu).
(5) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd ac awdurdod bwyd roi unrhyw gymorth a gwybodaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Asiantaeth Safonau Bwyd y maent yn gofyn yn rhesymol amdanynt mewn cysylltiad â gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.
5 

(1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(b) adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.);
(c) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b);
(ch) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b);
(d) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (c);
(dd) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(e) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
(2) Mae adran 29 o'r Ddeddf (caffael samplau) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiadau canlynol —
(a) bod y geiriau “a food authority or as the case may be a port health authority” yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau “an enforcement authority”;
(b) bod y ddarpariaeth ganlynol yn cael ei rhoi yn lle is-adran (b)(ii) —“
(ii) is found by him at any premises which he is authorised to enter by virtue of regulation 4(3)(b) of the Food (Hot Chilli and Hot Chilli Products) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2003;”;
(c) hepgorir is-adran (c); ac
(ch) yn lle'r geiriau “any of the provisions of this Act or of regulations or orders made under it” yn is-adran (d) rhoddir y geiriau “the Food (Hot Chilli and Hot Chilli Products) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2003”.
(3) Bydd adran 30 (dadansoddi samplau etc.) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad canlynol, sef mai yn is-adran (1) yn lle'r geiriau “An authorised officer of an enforcement authority who has procured a sample under section 29 above shall” rhoddir y geiriau “An authorised officer of a food authority or a port health authority who has procured a sample under section 29 above as applied for the purposes of the Food (Hot Chilli and Hot Chilli Products) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2003 by regulation 5(2) thereof shall”.
(4) Pan fydd sampl a sicrhawyd o dan adran 29 o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir at ddibenion y Rheoliadau hyn gan baragraff (2) wedi'i ddadansoddi yn unol â'r darpariaethau yn adran 30 o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir gan baragraff (3), bydd hawl gan y perchennog, os bydd yn gofyn am un, i gael copi o'r dystysgrif ddadansoddi gan yr awdurdod y mae'n ddyletswydd arno, yn rhinwedd rheoliad 4(1) neu (2), i orfodi'r darpariaethau hynny.
6 

(1) Wedi arolygu neu archwilio unrhyw dsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth, os yw'n ymddangos i swyddog awdurdodedig awdurdod iechyd porthladd neu, yn ôl fel y digwydd, awdurdod bwyd, eu bod wedi'u mewnforio yn groes i reoliad 3(1), ar ôl iddo ymgynghori'n briodol â pherson y mae'n ymddangos iddo mai ef yw'r mewnforiwr, caiff gyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw sy'n gorchymyn distrywio'r tsilis poeth a'r cynhyrchion tsilis poeth o fewn y cyfnod rhesymol a bennir.
(2) Mewn unrhyw achos pan ganiateir dwyn apêl o'r math a grybwyllir ym mharagraff (3), rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan —
(a) bod hawl apelio i lys ynadon; a
(b) y cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl.
(3) Caiff unrhyw berson sy'n tybio iddo gael cam oherwydd penderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) apelio i lys ynadon a fydd yn penderfynu a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio.
(4) Chwe diwrnod o'r dyddiad pryd y cyflwynwyd yr hysbysiad ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Cyhoeddus yw'r cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl a grybwyllwyd ym mharagraff (3) ac at ddibenion y paragraff hwn bernir bod gwneud y gwyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl.
(5) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (3) y weithdrefn fydd ei gwneud drwy gyfrwng cwyn ar gyfer gorchymyn a Deddf Llysoedd Ynadon 1980 fydd yn gymwys i'r achos.
(6) Os yw'r llys yn caniatáu apêl o dan baragraff (3), rhaid i'r awdurdod o dan sylw dalu iawndal i berchennog y tsilis poeth a'r cynhyrchion tsilis poeth o dan sylw am unrhyw ddibrisiant yn eu gwerth sy'n dod yn sgil y camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.
(7) Penderfynir unrhyw gwestiwn y mae dadl yn ei gylch ynghylch hawl i iawndal neu swm iawndal sy'n daladwy o dan baragraff (6) drwy gymrodeddu.
(8) Bydd unrhyw berson sy'n torri telerau hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am dymor nad yw'n hwy na thri mis.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Dafydd Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Medi 2003