
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Ôl-16 Unigol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 26 Medi 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Cofrestr” (“Register”) yw'r gofrestr ddisgyblion a gedwir o dan adran 434 o Ddeddf 1996 ac yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995;
 ystyr “cyfeirnod gweithgaredd dysgu” (“learning activity reference”) yw cyfuniad o rifau sydd ynghyd â llythyren yn cael eu dyrannu i gwrs astudiaeth neu weithgaredd dysgu arall ac sy'n benodol i'r cwrs hwnnw neu'r gweithgaredd dysgu hwnnw, ac a benderfynwyd gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;
 ystyr “Deddf 1996 (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “disgybl chweched dosbarth” (“sixth form pupil”) yw disgybl y caiff Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant dalu grant mewn perthynas â'i addysg i'r awdurdod addysg lleol o dan adran 36 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000;
 ystyr “rhif unigryw disgybl” (“unique pupil number”) yw cyfuniad o rifau sydd ynghyd â llythyren neu lythrennau yn cael eu dyrannu i ddisgybl ac sy'n benodol i'r disgybl hwnnw, drwy ddefnyddio fformiwla a benderfynwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
3 
O fewn pedwar diwrnod ar ddeg ar ôl cael cais ysgrifenedig oddi wrth yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal ysgol, rhaid i'r corff llywodraethu ddarparu i'r awdurdod unrhyw wybodaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn ac y gofynnir amdani o ran bob disgybl chweched dosbarth sydd ar y Gofrestr ar y dyddiad y gyfeirir ato yn y cais.
4 
At ddibenion adran 537A(4) o'r Ddeddf 1996 rhagnodir Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant yn berson y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddarparu unrhyw wybodaeth am ddisgyblion unigol iddo.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Medi 2003
ATODLEN
Rheoliad 3
1 
Yr wybodaeth a ganlyn am y disgybl —
(a) cyfenw, ac os oes gan y disgybl gyfenw blaenorol sy'n wybyddus i'r corff llywodraethu, y cyfenw blaenorol hwnnw;
(b) enw cyntaf, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;
(c) enw canol, neu bob enw canol os oes mwy nag un;
(ch) rhyw;
(d) dyddiad geni;
(dd) rhif unigryw cyfredol, ac os bu gan yr ysgol rif unigryw disgybl blaenorol ar gyfer y disgybl hwnnw, y rhif blaenorol;
(e) grŵp ethnig;
(f) hunaniaeth genedlaethol;
(ff) dyddiad derbyn y disgybl i'r ysgol; ac
(g) grŵp blwyddyn Cwricwlwm Cenedlaethol y disgybl.
2 
A yw'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn un ysgol neu mewn mwy nag un ysgol.
3 
Cod post y cartref lle mae'r disgybl fel arfer yn preswylio.
4 
A yw'r wybodaeth am grŵp ethnig y disgybl a ddarparwyd yn rhinwedd yr Atodlen hon yn cael ei darparu gan —
(a) y disgybl;
(b) rhiant;
(c) yr ysgol;
(ch) cyn ysgol; neu
(d) unrhyw ffynhonnell arall.
5 
Pa mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg.
6 
A yw'r disgybl yn siarad Cymraeg yn y cartref ai peidio, ac os yw ef, gyda phwy.
7 
A yw'r disgybl yn astudio unrhyw bwnc, heblaw'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith, drwy gyfrwng y Gymraeg.
8 
Os oes gan y disgybl anghenion addysgol arbennig, a oes ganddo ddatganiad o dan adran 324 o Ddeddf 1996 a'r ddarpariaeth AAA a wneir ar gyfer y disgybl yn unol â “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru”, a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002.
9 
A yw'r disgybl yn astudio tuag at Gymhwyster Bagloriaeth Cymru.
10 
Teitl pob cwrs neu weithgaredd dysgu arall y mae'r disgybl yn ei astudio.
11 
Mewn perthynas â phob cwrs neu weithgaredd dysgu arall y mae'r disgybl yn ei astudio —
(a) cyfeirnod y gweithgaredd dysgu;
(b) y dyddiad pan ddechreuodd y disgybl ddilyn y gweithgaredd dysgu;
(c) y dyddiad y disgwylir i'r gweithgaredd dysgu ddod i ben;
(ch) enw darparwr y gweithgaredd dysgu;
(d) a ddarperir y gweithgaredd dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, drwy'r Saesneg, neu'n ddwyieithog drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg; ac
(dd) a oes gan y disgybl anhawster dysgu ac/neu anabledd ac os felly a yw'r disgybl yn ymgymryd â gweithgaredd dysgu ar wahân neu weithgaredd dysgu prif ffrwd.