
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 29 Ionawr 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Ardal Deithio Gyffredin” (“the Common Travel Area”) yw'r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon gyda'i gilydd;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 1996; ac
 ystyr “y rheolau mewnfudo” (“the immigration rules”) yw'r rheolau a osodir fel a grybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 (darpariaethau cyffredinol ar gyfer rheoleiddio a rheolaeth).
3 
Nid yw darpariaethau Rhan VI o'r Ddeddf am ddyrannu llety tai yn gymwys yn yr achosion a ganlyn—
(a) pan fydd awdurdod tai lleol yn sicrhau darpariaeth llety amgen addas o dan adran 39 o Ddeddf Iawndal Tir 1973 (dyletswydd i ailgartrefu meddianwyr preswyl);
(b) mewn perthynas â rhoi tenantiaeth ddiogel o dan adran 554 a 555 o Ddeddf Tai 1985 (rhoi tenantiaeth i gyn berchen-feddiannydd neu denant statudol tŷ annedd diffygiol).
4 
Dyma'r dosbarthiadau o bobl sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ac a ragnodwyd at ddibenion adran 160A(3) o'r Ddeddf (personau a ragnodwyd fel rhai cymwys i ddyraniad o lety tai gan awdurdod tai lleol)—
(a) Dosbarth A-person a gofnodwyd fel ffoadur gan yr Ysgrifennydd Gwladol o fewn diffiniad erthygl 1 o'r Confensiwn sy'n ymwneud â statws Ffoaduriaid ac a wnaethpwyd yng Ngenefa 28 Gorffennaf 1951 fel yr estynnwyd gan Erthygl 1(2) o'r Protocol sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid ac a wnaethpwyd yn Efrog Newydd 31 Ionawr 1967);
(b) Dosbarth B-person—
(i) a gafodd ganiatâd arbennig gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i ddarpariaethau'r rheolau mewnfudo; a
(ii) nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy'n ei wneud yn ofynnol iddo ei gynnal a'i letya ei hun, ac unrhyw berson sy'n ddibynnol arno, heb fynd ar ofyn cronfeydd cyhoeddus;
(c) Dosbarth C-person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ac nad yw'n ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad neu amod ac sydd fel arfer yn preswylio yn yr Ardal Deithio Gyffredin heblaw person—
(i) a gafodd ganiatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar sail ymgymeriad ysgrifenedig a roddwyd gan berson arall (“noddwr” y person hwnnw) yn unol â'r rheolau mewnfudo i fod yn gyfrifol am gynhaliaeth a llety'r person hwnnw;
(ii) a fu'n preswylio yn y Deyrnas Unedig am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad pan ddaeth i mewn i'r wlad neu'r dyddiad y rhoddwyd yr ymgymeriad a grybwyllir uchod mewn perthynas â'r person hwnnw, p'un bynnag yw'r diweddaraf; a
(iii) y mae ei noddwr neu, os bydd rhagor nag un noddwr, o leiaf un o'i noddwyr, yn fyw o hyd;
(d) Dosbarth Ch-person sydd fel arfer yn preswylio yn yr Ardal Deithio Gyffredin ac sy'n—
(i) wladolyn gwladwriaeth a gadarnhaodd Gonfensiwn Ewrop ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol a wnaethpwyd ym Mharis ar 11 Rhagfyr 1953 neu wladwriaeth a gadarnhaodd Siarter Gymdeithasol Ewrop a wnaethpwyd yn Nhorino (Turin) ar 18 Hydref 1961 ac sy'n gyfreithiol bresennol yn y Deyrnas Unedig; neu
(ii) cyn 3 Ebrill 2000 yr oedd ar awdurdod tai ddyletswydd iddo o dan Ran III o Ddeddf Tai 1985 (cartrefu'r digartref) neu Ran VII o'r Ddeddf (digartrefedd) sy'n bodoli, ac sy'n wladolyn gwladwriaeth a lofnododd Gonfensiwn Ewrop ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol a wnaethpwyd ym Mharis ar 11 Rhagfyr 1953 neu wladwriaeth a lofnododd Siarter Gymdeithasol Ewrop ar 18 Hydref 1961.
5 
Dosbarth o bersonau, nad ydynt yn bersonau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, ac a ragnodwyd at ddibenion adran 160A(5) o'r Ddeddf (personau a ragnodwyd yn anghymwys i gael dyraniad llety tai) yw'r canlynol—
Dosbarth D-person nad yw fel arfer yn preswylio yn yr Ardal Deithio Gyffredin heblaw—
(a) gweithiwr at ddibenion Rheoliad y Cyngor (CEE) Rhif 1612/68 neu (CEE) Rhif 1251/70;
(b) person a chanddo hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn unol â Gorchymyn Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2000 ac sy'n deillio o Cyfarwyddeb y Cyngor Rhif 68/360/CEE) neu Rif 73/148/CEE;
(c) person sydd wedi ymadael â thriogaeth Montserrat ar ôl 1 Tachwedd 1995 oherwydd effaith ffrwydrad folcanig ar y diriogaeth honno.
6 
Dirymwyd Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2000).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Ionawr 2003