
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Prysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 6 Medi 2003.
2 

(1) Caiff paragraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Prysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002 ei ddiwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn lle'r diffiniad o “the Commission Decision” rhoddir y diffiniad canlynol—“
 “the Commission Decision” means Commission Decision 2002/79/EC imposing special conditions on the import of peanuts and certain products derived from peanuts originating in or consigned from China) as amended by Commission Decision 2002/233/EC, Commission Decision 2002/678/EC) and Commission Decision 2003/550/EC;”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
5 Medi 2003