
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2003; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 1 Awst 2003.
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “anifeiliaid” (“animals”) yw gwartheg (ac eithrio buail ac iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;
 mae i “ardal i anifeiliaid” (“animal area”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4(3)(c);
 ystyr “crynhoad anifeiliaid” (“animal gathering”) yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi ynghyd er mwyn —
(a) gwerthiant, sioe neu arddangosfa;
(b) eu hanfon ymlaen o fewn Prydain Fawr i'w magu ymhellach, eu pesgi neu eu lladd;
(c) archwiliad i gadarnhau bod gan yr anifeiliaid nodweddion brid penodol;
 mae “cyfarpar” (“equipment”) yn cynnwys corlannau a chlwydi; ac
 ystyr “diheintydd a gymeradwywyd” (“approved disinfectant”) yw diheintydd a gymeradwywyd o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978 sydd o'r cryfder y mae ei angen o dan y Gorchymyn hwnnw yn “gorchmynion cyffredinol”.
3 
Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys os—
(a) yr un person sy'n berchen ar bob anifail y daethpwyd ag ef i'r crynhoad;
(b) bydd yr anifeiliaid i gyd yn dod o un grŵ p o safleoedd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei awdurdodi fel grŵp meddiannaeth unigol o dan Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003; ac
(c) bydd y crynhoad anifeiliaid yn digwydd ar safle y mae perchennog yr anifeiliaid yn berchen arno neu yn ei feddiannu.
4 

(1) Ni chaiff neb ddefnyddio safle ar gyfer crynhoad anifeiliaid oni bai bod y safle hwnnw wedi ei drwyddedu i'r perwyl hwnnw gan arolygydd milfeddygol.
(2) 
(a) Rhaid i drwydded o dan yr erthygl hon fod yn ysgrifenedig;
(b) Caiff trwydded o dan yr erthygl hon ei diwygio, ei hatal dros dro, neu ei dirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan arolygydd milfeddygol; ac
(c) Caiff trwydded o dan yr erthygl hon fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sydd, yn nhyb yr arolygydd milfeddygol, yn angenrheidiol i atal clefydau rhag cael eu cyflwyno neu eu lledaenu o fewn y safle trwyddedig neu allan ohono.
(3) Mae trwydded i bennu —
(a) enw'r trwyddedai;
(b) y safle lle y ceir cynnal crynhoad anifeiliaid; ac
(c) yr ardal y caiff yr anifeiliaid fynd arni (“ardal i anifeiliaid”).
5 
Ni chaiff neb ganiatáu crynhoad anifeiliaid ar safle y mae anifeiliaid wedi cael eu cadw arno nes bydd 27 diwrnod wedi mynd heibio ers y diwrnod—
(a) y gadawodd yr anifail olaf y safle hwnnw; a
(b) ar ôl i'r anifail olaf adael y safle, y glanheir halogiad gweladwy oddi ar yr holl gyfarpar y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato.
6 

(1) Nid yw'r cyfyngiad yn erthygl 5 yn gymwys os yw'r ardal i anifeiliaid ar y safle trwyddedig wedi ei phalmantu â sment, concrid, asffalt neu unrhyw ddeunydd caled ac anhydraidd arall y mae modd ei lanhau a'i diheintio'n effeithiol, ac os yw'r ardal i anifeiliaid yn cael ei glanhau a'i diheintio ac y ceir gwared ar y gwastraff yn unol â'r erthygl hon cyn cynnal crynhoad anifeiliaid arall.
(2) Rhaid i'r glanhau a'r diheintio
(a) beidio â dechrau nes bydd pob anifail wedi ei symud o'r rhan o'r ardal i anifeiliaid sy'n cael ei glanhau a'i diheintio; a
(b) gael ei gwblhau ar ôl i'r anifail olaf adael y safle trwyddedig a chyn i grynhoad anifeiliaid gael ei gynnal ar y safle eto.
(3) Rhaid ysgubo neu grafu'n lân pob rhan o'r ardal i anifeiliaid (gan gynnwys unrhyw gyfarpar), a'i glanhau drwy olchi a'i diheintio drwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwywyd.
(4) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod yr holl borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, a'r holl sarn, yr ysgarthion a'r deunydd arall sy'n deillio o anifeiliaid ac halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid sydd yn yr ardal i anifeiliaid, cyn gynted ag y bo modd a chyn i anifeiliaid gael mynd mewn i'r safle trwyddedig eto —
(a) yn cael eu distrywio;
(b) yn cael eu trin er mwyn sicrhau nad oes perygl y byddant yn trosglwyddo clefydau; neu
(c) yn cael eu gwaredu fel na chaiff anifeiliaid fynd atynt.
(5) Os, ar ôl yr achlysur diwethaf pan gafodd yr ardal i anifeiliaid ei glanhau a'i diheintio yn unol â'r erthygl hon, y'i halogir ag ysgarthion anifeiliaid neu ddeunydd arall sy'n deillio o anifeiliaid neu unrhyw halogyn sy'n deillio o anifeiliaid, rhaid ysgubo neu grafu'n lân yr ardal i anifeiliaid neu'r rhannau hynny ohoni sydd wedi eu halogi felly, a'u glanhau drwy olchi a thrwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwywyd cyn i unrhyw anifeiliaid gael mynd ar y safle trwyddedig eto.
7 

(1) Ni chaiff yr un crynhoad anifeiliaid a gynhelir at ddibenion —
(a) gwerthiant neu archwiliad a gynhelir ar safle y mae erthygl 6 yn gymwys iddo; neu
(b) llwyth i'w anfon ymlaen a drwyddedir o dan y Gorchymyn hwn,
barhau yn hwy na 48 awr.
(2) Bydd y cyfnod 48 awr yn dechrau ar ganol dydd a dod i ben ar ganol dydd y trennydd.
(3) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau —
(a) na ddeuir â'r un anifail i'r safle cyn i'r cyfnod 48 awr ddechrau; a
(b) bod pob anifail yn cael ei symud o'r safle erbyn i'r cyfnod 48 awr ddod i ben.
(4) Caiff arolygydd milfeddygol, os yw wedi ei fodloni —
(a) bod angen gwneud hynny er lles yr anifeiliaid; neu
(b) mai bach yw'r perygl o gyflwyno clefydau yn y gwerthiant ac o ledaenu clefydau wedi hynny;
estyn y terfyn amser o 48 awr mewn cysylltiad â gwerthiant drwy roi hysbysiad ysgrifenedig.
8 
Pan gynhelir crynhoad anifeiliaid (heblaw mewn sioe neu arddangosfa) mae darpariaethau'r Atodlen (gofynion ynghylch crynhoad anifeiliaid) yn effeithiol.
9 

(1) Bydd darpariaethau'r erthygl hon yn gymwys pan fydd yr anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid wedi gadael y safle trwyddedig.
(2) Ni chaiff neb ganiatáu i anifeiliaid fynd ar y safle trwyddedig nes bydd halogion gweladwy wedi eu glanhau oddi ar yr holl gyfarpar yr oedd yr anifeiliaid yn y crynhoad yn cael mynd ato.
(3) Ni chaiff neb symud unrhyw gyfarpar y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato o'r safle trwyddedig os—
(a) nad yw'r halogion gweladwy wedi eu glanhau oddi ar y cyfarpar ac os nad yw cyfnod 27 diwrnod wedi dod i ben ers i'r anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid adael y safle trwyddedig; neu
(b) nad yw'r cyfarpar wedi ei ysgubo neu ei grafu'n lân, ei lanhau drwy olchi a'i ddiheintio drwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwywyd.
10 

(1) Yr awdurdod lleol sydd i orfodi'r Gorchymyn hwn.
(2) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddo, mewn mathau penodol o achosion penodol neu unrhyw achos penodol, mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac nid yr awdurdod lleol, sydd i weithredu'r swyddogaeth orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan yr erthygl hon.
11 
Dirymir y canlynol—
(a) Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925;
(b) Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau (Diwygio) 1926;
(c) Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau (Diwygio) 1927;
(ch) Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau (Diwygio) 1996;
(d) Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
John Marek
Y Dirprwy Lywydd
29 Gorffennaf 2003Ben Bradshaw
Yr Is-ysgrifennydd Seneddol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
29 Gorffennaf 2003
YR ATODLEN
Erthygl 8
1 

(1) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson sy'n mynd ar y safle trwyddedig yn cael gwybod bod y safle'n drwyddedig o dan y Gorchymyn hwn, pa un ai trwy gyfrwng system o hysbysiadau y gwneir hynny neu mewn rhyw ffordd arall.
(2) Rhaid i'r trwyddedai ddarparu baddonau traed ac ynddynt ddiheintydd a gymeradwywyd wrth y ffyrdd allan o'r ardal i anifeiliaid ac wrth unrhyw fan llwytho a dadlwytho, a darparu cyfleusterau ar y safle trwyddedig ar gyfer newid, glanhau a diheintio dillad a gwaredu dillad y gellir eu taflu.
(3) Mae'n rhaid i'r trwyddedai—
(a) sicrhau mai yn yr ardal i anifeiliaid y caiff yr anifeiliaid eu dadlwytho a'u hail-lwytho, a
(b) sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, nad yw anifeiliaid yn gadael yr ardal i anifeiliaid ac eithrio ar gerbyd.
2 

(1) Ni chaiff neb fynd ar safle trwyddedig yn gwisgo dillad allanol y mae arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi'u halogi â charthion anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid.
(2) Os bydd person yn yr ardal i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â charthion anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid, rhaid iddo ar ei union ar ôl gadael yr ardal i anifeiliaid, lanhau halogi garw oddi ar ei ddillad (onid yw'r dillad i gael eu taflu) a naill ai—
(a) eu diheintio;
(b) newid y dillad am ddillad glân;
(c) eu taflu; neu
(ch) ymadael â'r safle trwyddedig.
(3) Os bydd person y tu allan i'r ardal i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â charthion anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid, caiff arolygydd gyflwyno iddo hysbysiad yn rhoi iddo'r dewis o—
(a) glanhau y dillad allanol,
(b) newid y dillad am ddillad glân,
(c) gwaredu dillad y gellir eu taflu, neu
(ch) ymadael â'r safle trwyddedig a hynny ar ei union.
3 
Rhaid i unrhyw berson sy'n ymadael â'r ardal i anifeiliaid lanhau a diheintio ei esgidiau yn y baddon traed sydd wedi'i ddarparu.
4 

(1) Ni chaiff neb ddod ag unrhyw gerbyd nac offer a gludir ar y cerbyd hwnnw ar y safle trwyddedig na mynd â hwy oddi yno os ydynt wedi'u halogi â charthion anifeiliaid.
(2) Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys i—
(a) unrhyw gerbyd neu offer sydd wedi'u halogi â charthion yr anifeiliaid a oedd yn cael eu cludo ar y cerbyd pan ddaethpwyd â'r cerbyd ar y safle trwyddedig;
(b) unrhyw gerbyd neu offer sydd wedi'u halogi â charthion anifeiliaid sydd wedi cael eu dadlwytho o'r cerbyd ar y safle trwyddedig;
(c) unrhyw gerbyd neu offer y daethpwyd â hwy yn unswydd er mwyn eu glanhau a'u diheintio, os yr eir â hwy yn unionsyth i'r cyfleusterau glanhau a diheintio yn ddi-oed ar ôl cyrraedd y safle.