
RHAN 1
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003; mae'n gymwys ynghylch Cymru, a daw i rym ar 1 Awst 2003.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “anifeiliaid” (“animals”) yw gwartheg (ac eithrio buail ac iacod), ceirw, geifr, moch a defaid;
 ystyr “canolfan gasglu” (“collecting centre”) yw safle sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer derbyn, yn y tymor byr, anifeiliaid y bwriedir eu symud i rywle arall (ond nid yw'n cynnwys marchnad na rhywle arall sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwerthiant neu fasnach anifeiliaid oni fwriedir i'r holl anifeiliaid sydd yno gael eu cigydda yn syth);
 ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sydd â gofal a rheolaeth dros anifeiliaid, hyd yn oed dros dro ac, at ddibenion erthygl 13(2)(a), mae'n cynnwys unrhyw berson sy'n cludo'r anifeiliaid;
 ystyr “cyfnod segur” (“standstill period”) yw cyfnod pan na chaniateir i anifeiliaid gael eu symud oddi ar safle oherwydd darpariaethau erthyglau 4 neu 5;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 mae i “grŵ p meddiannaeth unigol” (“sole occupancy group”) yr ystyr a briodolir iddo gan erthygl 11;
 mae i “lladd-dy” yr ystyr a roddir i “slaughterhouse” yn Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995;
 ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw cymrawd neu aelod o Goleg Brenhinol y Milfeddygon;
 mae “safle” (“premises”) yn cynnwys tir ag adeiladau neu dir hebddynt;
 mae “tir” (“land”) yn cynnwys tir comin neu dir heb ei amgáu;
 ac
 yn achos geifr, mae “triniaeth filfeddygol” (“veterinary treatment”) yn cynnwys casglu semen.
3 
Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys i symud—
(a) sydd wedi'i drwyddedu o dan Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau 1983; neu
(b)  i unrhyw sw a drwyddedwyd o dan Ddeddf Trwyddedu Swau 1981 neu oddi yno.
RHAN 2
4 
Ni chaiff neb symud unrhyw ddefaid, geifr neu wartheg oddi ar unrhyw safle os oes unrhyw ddefaid, geifr, gwartheg neu foch wedi'u symud i'r safle hwnnw yn ystod y chwe diwrnod blaenorol.
5 
 Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar unrhyw safle os—
(a) y mae unrhyw fochyn wedi'i symud i'r safle hwnnw yn ystod yr 20 diwrnod blaenorol; neu
(b) y mae unrhyw wartheg, geifr neu ddefaid wedi'u symud i'r safle hwnnw yn ystod y chwe diwrnod blaenorol.
6 
Er gwaethaf erthyglau 4 a 5, caniateir i anifeiliaid gael eu symud oddi ar safle yn ystod y cyfnod segur—
(a) os yw'r symudiad yn un a bennir yn Atodlen 1; neu
(b) os dyroddwyd trwydded sy'n datgymhwyso'r cyfnod segur gan arolygydd milfeddygol.
7 
 Nid yw'r cyfnod segur yn cael ei sbarduno drwy symud anifail i safle os yw'r symudiad yn un a bennir yn Atodlen 2.
8 

(1) Pan fydd anifeiliaid yn cael eu cadw mewn cyfleuster ynysu o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, a bod anifeiliaid eraill yn cael eu symud i mewn cyn iddynt gael eu rhyddhau o'r cyfleuster ynysu, ni chaniateir i unrhyw anifail gael ei symud o'r cyfleuster ynysu cyn y dyddiad rhyddhau diwethaf i'r anifeiliaid diwethaf gael eu symud i mewn i'r cyfleuster ynysu.
(2) Ni chaniateir i foch rannu cyfleuster ynysu ag anifeiliaid o unrhyw rywogaeth arall.
9 
Ni chaiff neb symud defaid neu eifr i sioe neu arddangosfa oni bai bod yr anifeiliaid wedi'u marcio â Rhif adnabod unigol yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002.
10 
Ni chaiff neb—
(a) symud unrhyw anifail i ladd-dy ac eithrio at ddibenion ei gigydda o fewn 48 awr iddo gyrraedd yno; na
(b) derbyn unrhyw anifail o ladd-dy oni wneir hynny, yn achos unrhyw anifail ac eithrio mochyn, o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol.
11 
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol a'r Ysgrifennydd Gwladol awdurdodi setiau o safleoedd i fod yn grwpiau meddiannaeth unigol os yw ef neu hi wedi'i fodloni bod y safleoedd yn gysylltiedig â'i gilydd o ran eu rheolaeth.
RHAN 3
12 

(1) Ni chaiff neb symud anifail o unrhyw safle oni bai bod y symudiad yn cael ei wneud o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd.
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i unrhyw symudiad a awdurdodwyd drwy drwydded o dan erthygl 10 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (trwyddedau'n ymwneud â moch anwes).
13 

(1) Pan fo trwydded gyffredinol wedi'i dyroddi o dan erthygl 12, caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol ddyroddi hysbysiad yn gwahardd—
(a) symud o dan awdurdod y drwydded honno unrhyw anifail o unrhyw safle a bennir yn yr hysbysiad; neu
(b) unrhyw berson a bennir yn yr hysbysiad rhag symud anifeiliaid o dan awdurdod y drwydded honno naill ai'n gyffredinol neu i unrhyw safle a bennir yn yr hysbysiad neu oddi yno.
(2) Ni chaiff hysbysiad ei ddyroddi o dan baragraff (13) ond ar gyngor arolygydd, y mae'n rhaid iddo fod o'r farn —
(a) nad yw'r person a bennir yn yr hysbysiad yn cydymffurfio neu nad yw wedi cydymffurfio â darpariaethau'r Gorchymyn hwn mewn perthynas ag anifeiliaid a symudwyd i'r safle o dan sylw neu oddi arno, neu mewn perthynas â symud unrhyw anifeiliaid eraill, os y person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo yw ceidwad yr anifeiliaid hynny neu os bu'n geidwad yr anifeiliaid hynny ar unrhyw adeg, a
(b) bod angen cyflwyno hysbysiad i atal y posibilrwydd y bydd clefydau yn lledaenu.
(3) Mae hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(a) i gael ei gyflwyno i feddianwyr pob un o'r safleoedd a bennir yn yr hysbysiad ac mewn unrhyw ffordd arall y gwêl y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn dda i ddwyn yr hysbysiad i sylw'r personau y mae'r hysbysiad yn effeithio arnynt.
(4) Mae hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(b) i gael ei gyflwyno i'r person sy'n cael ei wahardd gan yr hysbysiad rhag symud anifeiliaid ac i feddiannydd unrhyw safle a enwir yn benodol yn yr hysbysiad.
(5) Rhaid i hysbysiad fod yn ysgrifenedig, a chaiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaiff ei ddiwygio, ei atal dros dro, neu ei ddirymu ar unrhyw adeg gan hysbysiad arall gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol.
14 

(1) O ran anifail a symudir o dan drwydded benodol—
(a) rhaid iddo gael ei symud ar hyd y llwybr mwyaf uniongyrchol sydd ar gael i'r gyrchfan a bennir yn y drwydded, a
(b) rhaid i'r drwydded fynd gydag ef ar hyd y daith.
(2) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw anifail a symudir o dan drwydded benodol, os myn cwnstabl neu arolygydd neu unrhyw un arall o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol, yr Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod lleol —
(a) dangos y drwydded;
(b) caniatáu i gopi ohoni neu o ddyfyniad ohoni gael ei gymryd; ac
(c) os gofynnir hynny iddo, roi ei enw a'i gyfeiriad.
(3) Rhaid i bob anifail sy'n cael ei symud o dan awdurdod trwydded o dan y Gorchymyn hwn gael ei gadw ar wahân i unrhyw anifail nad yw'n cael ei symud o dan awdurdod y drwydded honno, a hynny ar hyd y daith.
(4) Pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud o dan drwydded benodol, yna, onid yw'r drwydded yn darparu fel arall, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo—
(a) sicrhau y rhoddir y drwydded iddo ef neu i'w gynrychiolydd cyn caniatáu i'r anifeiliaid gael eu dadlwytho; a
(b) cadw'r drwydded am chwe mis ac yn ystod y cyfnod hwnnw ei dangos i arolygydd os gofynnir am ei gweld.
15 
Pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud o dan drwydded gyffredinol sy'n ei gwneud yn ofynnol bod gan y person sy'n symud yr anifeiliaid ddogfen symud, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo—
(a) sicrhau y rhoddir iddo ef neu i'w gynrychiolydd y copi uchaf o'r ddogfen symud cyn caniatáu dadlwytho'r anifeiliaid;
(b) llenwi'r copi uchaf i ddangos ei fod ef wedi cael yr anifeiliaid, llofnodi'r copi, a'i anfon i'r awdurdod lleol yn ddi-oed; ac
(c) ar ôl ei llenwi cadw copi o'r ddogfen am chwe mis ac yn ystod y cyfnod hwnnw ei ddangos i arolygydd os gofynnir am ei weld.
16 
Pan fydd arolygydd awdurdod lleol yn dyroddi trwydded o dan erthygl 12(1), rhaid iddo gadw copi o'r drwydded am chwe mis.
17 
Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â thrwydded, caniatâd, awdurdodiad neu hysbysiad a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn, caiff un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, neu arolygydd, drefnu y cydymffurfir ag ef a hynny ar draul y person sy'n methu â chydymffurfio.
18 
Bydd trwydded a ddyroddir gan yr awdurdod cymwys yn yr Alban neu yn Lloegr at ddibenion symud anifeiliaid yn weithredol yng Nghymru fel pe buasai wedi'i dyroddi o dan y Gorchymyn hwn.
RHAN 4
19 

(1) Rhaid i unrhyw drwydded, caniatâd, neu awdurdodiad o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn gyffredinol neu'n benodol, yn ddarostyngedig i amodau, a chaniateir ei amrywio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig unrhyw bryd—
(a) gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos trwydded, caniatâd neu awdurdodiad a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd o unrhyw fath;
(b) gan arolygydd milfeddygol, yn achos trwydded neu ganiatâd a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu unrhyw un o arolygwyr eraill y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol;
(c) gan un o arolygwyr y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol (ac eithrio arolygydd milfeddygol), yn achos trwydded a ddyroddwyd gan unrhyw arolygydd o'r fath; neu
(ch) gan un o arolygwyr awdurdod lleol, yn achos trwydded a ddyroddwyd gan un o arolygwyr yr awdurdod lleol hwnnw.
(2) Wrth benderfynu a ddylid dyroddi trwydded o dan erthygl 12 neu ganiatâd o dan erthygl 6(b), rhaid i arolygydd neu arolygydd milfeddygol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol.
20 

(1) Caiff trwydded a ddyroddir o dan erthygl 12, caniatâd a ddyroddir o dan erthygl 6(b) neu awdurdodiad o dan erthygl 11 bennu gofynion o ran y gwaith o lanhau a diheintio unrhyw gerbyd a ddefnyddir ar gyfer symud anifeiliaid ac sy'n ychwanegol at ofynion Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003.
(2) Pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud o dan drwydded, rhaid i feddiannydd y safle y maent yn cael eu symud iddo ddarparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau digonol ar gyfer unrhyw waith glanhau a diheintio sy'n ofynnol o dan y drwydded.
21 

(1) Os, pan fydd ei hawl i feddiannu unrhyw safle yn dod i ben, y bydd perchennog unrhyw anifail ar y safle hwnnw yn methu ei symud o'r safle hwnnw oherwydd unrhyw gyfyngiad a osodir gan y Gorchymyn hwn neu oddi tano, rhaid i'r person sydd â'r hawl i feddiannu'r safle hwnnw—
(a) rhoi i berchennog yr anifail hwnnw ac unrhyw berson a awdurdodir ganddo i'r pwrpas, yr holl gyfleusterau hynny y gallai'r perchennog yn rhesymol ofyn amdanynt ac a allai fod yn angenrheidiol ar gyfer bwydo, tendio neu ddefnyddio'r anifail hwnnw mewn ffordd arall (gan gynnwys ei werthu); neu
(b) pan nad yw perchennog yr anifail hwnnw'n gallu manteisio ar y cyfleusterau hynny, neu'n anfodlon gwneud hynny, cymryd yr holl gamau o'r fath a allai fod yn angenrheidiol i sicrhau bod yr anifail yn cael ei fwydo, ei dendio a'i gadw'n iawn.
(2) Bydd darpariaethau paragraff (1) yn dal i fod yn gymwys hyd nes bydd cyfnod o saith diwrnod wedi mynd heibio ers y dyddiad y bydd unrhyw gyfyngiadau ar symud yr anifail oddi ar y safle yn peidio â bod yn gymwys, a pherchennog yr anifail fydd yn atebol am dalu i'r person sy'n darparu unrhyw gyfleusterau neu borthiant, sy'n tendio neu fel arall yn cadw'r anifeiliaid, yn unol â'r darpariaethau hynny, unrhyw symiau, o ran tâl ac ad-daliad o dreuliau, sy'n gyfiawn ac yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.
22 

(1) Mae'r Gorchymyn hwn i gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, y caiff dyletswydd orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn ei chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, ac nid gan yr awdurdod lleol.
23 
Dirymir Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2003.
24 

(1) Diwygir Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 yn unol â'r ethygl hwn.
(2) Yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwnnw dileir y geiriau “a bydd ei effaith yn darfod ar 1 Awst 2003”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
John Marek
Cynulliad Cenedla
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Gorffennaf 2003Ben Bradshaw
Is-ysgrifennydd Gwladol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
29 Gorffennaf 2003
ATODLEN 1
Erthygl 6(a)
1 

(1) Symud anifail i fan lle y rhoddir triniaeth filfeddygol.
(2) Symud anifail o fan lle y rhoddwyd triniaeth filfeddygol iddo ar yr amod nad yw'r anifail wedi dod i gysylltiad ag anifeiliaid eraill tra oedd yn y fan lle y rhoddwyd triniaeth.
(3) Symud anifail i labordy lle y gwneir profion diagnostig arno i gadarnhau a effeithiwyd ar yr anifail gan glefyd neu a yw wedi bod yn agored i glefyd.
2 
Symud anifail yn uniongyrchol i ladd-dy.
3 
Symud mochyn i farchnad ar gyfer moch y bwriedir iddynt gael eu cigydda'n syth.
4 
Symud anifail i ganolfan gasglu ar gyfer anifeiliaid y bwriedir iddynt gael eu cigydda'n syth, ar yr amod—
(a) na ddefnyddiwyd, ac na ddefnyddir, safle'r ganolfan gasglu ar yr un diwrnod ar gyfer sioe neu arddangosfa neu ar gyfer gwerthiant neu fasnach anifeiliaid ac eithrio anifeiliaid i'w cigydda'n syth; a
(b) y symudir yr holl anifeiliaid a symudwyd i'r ganolfan gasglu oddi yno yn uniongyrchol i ladd-dy.
5 
Symud gwartheg neu foch i ganolfan ffrwythloni artiffisial.
6 
Symud defaid neu eifr i ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod eu bod wedi eu hynysu oddi wrth bob anifail arall am chwe diwrnod cyn ymadael.
7 
Symud anifail i'w allforio yn uniongyrchol i ganolfan gasglu neu ganolfan gynnull a gymeradwywyd o dan reoliad 12(2) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000 cyn ei allforio.
8 
Symud anifeiliaid rhwng safleoedd mewn grŵ p meddiannaeth unigol.
9 

(1) Symud anifail rhwng tir y mae gan berchennog neu geidwad yr anifail hawl gofrestredig i gomin arno ac —
(a) safle sydd ym meddiannaeth perchennog neu geidwad yr anifail ac y mae hawl gofrestredig i gomin yn cael ei harfer fel rheol mewn perthynas ag ef; neu
(b) safle sydd ym meddiannaeth unrhyw berson arall y mae ganddo hawl gofrestredig i gomin dros y tir hwnnw, sy'n cael ei harfer fel rheol mewn perthynas â'r tir hwnnw.
(2) Mae symud anifail rhwng safle, sydd ym meddiannaeth perchennog neu geidwad yr anifail ac y mae hawl gofrestredig i gomin yn cael ei harfer fel rheol dros y tir, a safle ym meddiannaeth unrhyw berson arall y mae ganddo hawl gofrestredig i gomin dros y tir hwnnw, a bod hawl gofrestredig i gomin y person arall hwnnw'n cael ei harfer fel rheol mewn perthynas â'r tir hwnnw.
(3) Yn y paragraff hwn ystyr “hawl gofrestredig i gomin” (“registered right of common”) yw hawl i gomin sy'n gofrestredig o dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965 neu hawl i gomin sy'n esempt rhag unrhyw gofrestru o'r fath ond sydd wedi'i chofrestru, wedi'i dynodi, wedi'i chysylltu, neu fel arall wedi'i chydnabod, wedi'i pharhau neu wedi'i chadw o dan ac yn unol ag unrhyw un o'r Deddfau Fforest Newydd 1854, 1949, 1964 a 1970, Deddfau Fforest Epping 1878 a 1880 neu Ddeddf Dinas Llundain (Pwerau Amrywiol) 1977) neu unrhyw hawl neu ganiatâd cyffelyb sydd wedi'i arfer yn Fforest y Ddena.
10 

(1) Symud mochyn sydd wedi'i fwriadu ar gyfer bridio neu besgi yn unol ag erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002.
(2) Symud mochyn sydd wedi'i fwriadu ar gyfer bridio heblaw yn unol â pharagraff (1) os gosodwyd y mochyn hwnnw mewn cyfleuster ynysu wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol a hynny am 20 diwrnod cyn symud y mochyn.
11 
Symud mochyn i sioe neu arddangosfa ar yr amod —
(a) ei fod yn cael ei ynysu am 20 diwrnod cyn iddo gael ei symud a hynny mewn safle sydd wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol; neu
(b) ei fod wedi cael ei ddychwelyd i safle ei darddiad o sioe neu arddangosfa a'i ynysu yn safle ei darddiad mewn safle wedi'i gymeradwyo yn unol â pharagraff (a) o'r adeg pan gyrhaeddodd o'r sioe neu'r arddangosfa gyntaf hyd at adeg ymadael ar gyfer yr ail sioe neu arddangosfa.
12 

(1)  Symud hyrddod a theirw, y bwriedir eu defnyddio ar gyfer bridio, i farchnad, ar yr amod eu bod wedi'u rhoi mewn cyfleuster ynysu sydd wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol am chwe diwrnod cyn eu symud.
(2) I fod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad hwn—
(a) rhaid i'r symud ddigwydd ar neu ar ôl 1 Awst a chyn 1 Rhagfyr yn yr un flwyddyn;
(b) rhaid i'r anifeiliaid beidio â bod wedi rhannu'r cyfleuster ynysu ag anifeiliaid sydd wedi'u hynysu at unrhyw ddiben arall;
(c) rhaid i'r hyrddod fod wedi'u marcio â Rhif adnabod unigol yn unol â Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002; ac
(ch) rhaid i'r person sy'n anfon yr anifail lofnodi datganiad bod yr anifail wedi'i fwriadu i'w werthu ar gyfer bridio a'i anfon i'r awdurdod lleol yn ddi-oed.
13 
Symud gwartheg, defaid a geifr i sioeau neu arddangosfeydd ar yr amod—
(a) eu bod wedi eu hynysu am chwe diwrnod mewn cyfleuster sydd wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol cyn teithio i sioe neu arddangosfa, neu
(b) eu bod wedi eu symud i'r cyfleuster ynysu o sioe neu arddangosfa arall ac nad ydynt wedi ymadael â'r cyfleuster ynysu hwnnw ers pan aed â hwy yno.
14 
Symud anifail sydd ar gerbyd sy'n mynd i safle i ollwng anifeiliaid eraill, ar yr amod nad yw'r anifail wedi gadael y cyfrwng cludo tra bu ar y safle.
ATODLEN 2
Erthygl 7
1 
Symud anifail i unrhyw safle sydd wedi'i drwyddedu o dan Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2003 os yw'r symudiad at ddibenion crynhoad sydd wedi'i drwyddedu o dan y Gorchymyn hwnnw.
2 
Symud anifail i ganolfan ffrwythloni artiffisial.
3 
Symud mochyn os yw'r symudiad hwnnw yn un o'r math y cyfeirir ato yn erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002.
4 

(1) Mochyn ar gyfer bridio sy'n cyrraedd y safle bridio (ac eithrio mochyn sy'n cael ei symud o dan erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002) ar yr amod —
(a) cyn ei symud, naill ai na fuasai cyfnod segur ar y safle ymadael, neu fel arall y cawsai'r mochyn ei ynysu am 20 diwrnod cyn ei symud a hynny mewn cyfleuster wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol;
(b) ei fod yn cael ei ynysu tra bydd ar y safle bridio (neu am 20 diwrnod, pa gyfnod bynnag yw'r byrraf) mewn cyfleuster ynysu wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol;
(c) bod unrhyw fochyn sy'n cael ei osod yn y cyfleuster ynysu gyda'r mochyn y daethpwyd ag ef i'r safle at ddibenion bridio, wedi bod ar y safle bridio am o leiaf 20 diwrnod cyn cael ei osod yn y cyfleuster hwnnw;
(ch) bod unrhyw fochyn arall sy'n cael ei osod yn y cyfleuster ynysu ar y safle bridio gyda'r un y daethpwyd ag ef i'r safle hwnnw yn cael ei ynysu am 20 diwrnod ar ôl i'r mochyn y daethpwyd ag ef i'r safle gyrraedd, neu am 20 diwrnod ar ôl ei ynysu gyda'r mochyn y daethpwyd ag ef i'r safle, pa un bynnag yw'r diweddaraf; a
(d) bod y sawl sy'n derbyn y mochyn bridio yn llofnodi datganiad yn dweud y bwriedir defnyddio'r mochyn i fagu ar y safle hwnnw a'i fod yn anfon y datganiad i'r awdurdod lleol yn ddi-oed.
(2) Symud mochyn (ac eithrio un sy'n cael ei symud o dan erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 sy'n cael ei ddychwelyd i'r safle hwnnw o fan yr oedd wedi'i symud iddo ar gyfer bridio, ar yr amod—
(a) ei fod yn cael ei ynysu oddi wrth bob anifail arall am 20 diwrnod ar ôl y dyddiad y'i dychwelir, a
(b) bod meddiannydd y safle y dychwelodd y mochyn ohono ar ôl ei ddefnyddio at ddibenion bridio wedi anfon y datganiad sy'n ofynnol ym mharagraff 4(1)(d) uchod at yr awdurdod lleol.
5 
Dychwelyd moch, gwartheg, defaid neu eifr o sioe neu arddangosfa i'r safle y traddodwyd hwy ohono i'r sioe neu'r arddangosfa ar yr amod bod yr anifeiliaid yn cael eu hynysu am chwe diwrnod (neu, yn achos moch, am 20 diwrnod) ar ôl eu dychwelyd i safle wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol.
6 

(1) Dychwelyd hyrddod a theirw o farchnad ar yr amod bod yr anifeiliaid yn cael eu hynysu am chwe diwrnod ar ôl eu dychwelyd mewn safle sydd wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol.
(2) I fod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad hwn—
(a) rhaid i'r symud ddigwydd ar neu ar ôl 1 Awst a chyn 1 Rhagfyr yn yr un flwyddyn;
(b) rhaid i'r anifeiliaid beidio â bod wedi rhannu'r cyfleuster ynysu ag anifeiliaid sydd wedi'u hynysu at unrhyw ddiben arall;
(c) rhaid i'r hyrddod fod wedi'u marcio â Rhif adnabod unigol yn unol â Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002.
7 

(1) Hyrddod a theirw sy'n cyrraedd at ddibenion bridio ar yr amod eu bod yn cael eu hynysu am chwe diwrnod ar ôl iddynt gyrraedd cyfleuster sydd wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol.
(2) I fod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad hwn—
(a) rhaid i'r symud ddigwydd ar neu ar ôl 1 Awst a chyn 1 Rhagfyr yn yr un flwyddyn;
(b) rhaid i'r hyrddod fod wedi'u marcio â Rhif adnabod unigol yn unol â Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002;
(c) rhaid i'r sawl sy'n derbyn yr anifail bridio lofnodi datganiad yn dweud y bwriedir defnyddio'r anifail ar gyfer bridio ar y safle hwnnw ac anfon y datganiad hwnnw i'r awdurdod lleol yn ddi-oed;
(ch) rhaid i unrhyw famogiaid a roddwyd gyda'r hwrdd hwnnw gael eu hynysu am chwe diwrnod yn y cyfleuster hwnnw.
8 

(1) Geifr sy'n cyrraedd at ddibenion bridio ar yr amod eu bod wedi'u hynysu ar y safle tarddiad am chwe diwrnod cyn ymadael mewn cyfleuster sydd wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol.
(2) I fod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad hwn—
(a) rhaid i'r geifr fod wedi'u marcio â Rhif adnabod unigol yn unol â Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002; a
(b) rhaid i'r sawl sy'n derbyn yr anifail bridio lofnodi datganiad yn dweud y bwriedir defnyddio'r anifail ar gyfer bridio ar y safle hwnnw ac anfon y datganiad hwnnw i'r awdurdod lleol yn ddi-oed.
9 
Gwartheg sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial.
10 
Moch sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod eu bod yn cael eu hynysu oddi wrth bob anifail arall am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.
11 
Defaid neu eifr sy'n cyrraedd yn ôl o ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod —
(a) eu bod yn cael eu hynysu oddi wrth bob anifail arall am chwe diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd; a
(b) eu bod wedi'u hynysu oddi wrth bob anifail arall tra'r oeddent yn y ganolfan ffrwythloni artiffisial.
12 

(1) Anifail a fewnforir sy'n cyrraedd y fan lle y mae'n dod i mewn i Gymru.
(2) Symud anifail o'r fan lle y daw i mewn i'r Deyrnas Unedig yn sgil ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall.
13 
Symud anifeiliaid rhwng safleoedd mewn grŵ p meddiannaeth unigol.
14 
Symud anifail y daethpwyd ag ef i'r safle mewn cerbyd sy'n casglu anifeiliaid eraill ar yr amod nad yw'r anifail yn cael ei ddadlwytho ar y safle hwnnw.
15 
Unrhyw ddefaid, geifr, gwartheg neu foch sy'n cael eu dychwelyd i'r safle hwnnw o fan lle y rhoddir triniaeth filfeddygol neu unrhyw epil y maent wedi esgor arnynt tra'r oeddent yno ar yr amod, yn achos moch, eu bod wedi'u hynysu oddi wrth anifeiliaid eraill am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.