
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Amrywio'r Dyfroedd a Eithrir) (Afon Teifi) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Awst 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 
Ym mharagraff 83 o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949 (sydd, at ddibenion Rhan 1 o'r Ddeddf, yn eithrio dyfroedd penodol sy'n ffurfio rhan o Afon Teifi o'r diffiniad o “sea” a “seashore”), yn lle “above the ferry north of St Dogmells” rhodder y geiriau “above Priory Bridge at Cardigan”.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Carwyn Jones
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
20 Gorffennaf 2003