
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Diwygio) (Cymru) 2003; maent yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 31 Gorffennaf 2003.
2 

(1) Mae Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Lloegr a Chymru) 1998 (“Rheoliadau 1998”) yn cael eu diwygio fel y maent yn gymwys i Gymru yn unol â'r paragraffau canlynol—
(2) Yn rheoliad 2(dehongli) yn y diffiniad o “nitrate vulnerable zones” mewnosodir y geiriau “or 3B” yn union ar ôl “regulation 3”.
(3) Yn rheoliad 8(1) (tramgwyddau) —
(i) yn lle “level 5 on the standard scale” rhoddir “the statutory maximum”; a
(ii) hepgorir y geiriau “not exceeding the statutory maximum” yn union ar ôl y gair “fine” lle mae'n ymddangos yr ail dro.
(4) Yn yr Atodlen
(i) ym mharagraff 9, ar ôl is-baragraff (2), mewnosodir y canlynol —“
(3) Subparagraph (2)(b)(i) shall have effect in relation to all nitrate vulnerable zones in Wales except Dyserth and Trelech as if “2006” were substituted for “2002””;
(ii)  yn lle paragraff 15 rhoddir —“
15. 
Any record of an event made for the purposes of paragraph 14 shall be retained for a period of 5 years after that event.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2003