
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) (Cymru) 2003 ac maent yn dod i rym ar 31 Gorffennaf 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol, mewn perthynas â Chymru, neu, mewn perthynas â Lloegr, cyngor sir, dosbarth neu fwrdeistref;
 mae gan “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i'r term “electronic communication” gan adran 15(1) Deddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelu'r Arfordir 1949;
 ystyr “hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir” (“notice of a proposal to carry out coast protection work”) yw hysbysiad y mae'n rhaid i awdurdod diogelu'r arfordir ei gyhoeddi o dan adran 5(1) o'r Ddeddf.
3 
Rhaid i hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir fod yn y ffurf ddwyieithog a ragnodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd yn sylweddol yn cael yr un effaith.
4 
Rhaid i gopi o hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir, yn ogystal â chael ei gyflwyno i'r cyrff a nodir yn adran 5(1) o'r Ddeddf, hefyd gael ei gyflwyno i:
(a) unrhyw awdurdod lleol y mae'n debygol y bydd ei ardal yn cael ei effeithio gan y gwaith y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef;
(b) unrhyw awdurdod harbwr, awdurdod mordwyo, awdurdod gwarchodaeth, neu bwyllgor pysgodfeydd lleol y mae ei ardal yn cynnwys yr ardal lle bydd y gwaith y mae'r hysbysiad yn perthyn iddo yn cael ei wneud neu y bydd fel arall yn debyg o gael ei effeithio gan y gwaith hwnnw;
(c) Cyngor Cefn Gwlad Cymru;
(ch) os yw'r gwaith y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn debygol o effeithio ar unrhyw ran o Loegr neu o'r môr sy'n gyfagos at Loegr, “English Nature”, Comisiwn Adeiladau a Henebion Lloegr a'r “Countryside Agency”; a
(d) unrhyw berson arall sydd â buddiant mewn unrhyw dir y bydd y gwaith y mae'r hysbysiad yn perthyn iddo yn cael ei wneud arno, neu sy'n debygol o gael ei effeithio gan y gwaith, oni bai nad yw'r awdurdod diogelu'r arfordir yn gwybod pwy ydyw nac yn medru yn rhesymol gadarnhau pwy ydyw.
5 

(1) Rhaid i hysbysiad o wrthwynebiad o dan adran 5(3) o'r Ddeddf i gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir y mae hysbysiad ohono wedi'i gyhoeddi o dan adran 5(1) o'r Ddeddf fod yn ysgrifenedig a rhaid i gopïau ohono gael eu cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ac i'r awdurdod diogelu'r arfordir o fewn y cyfnod hwnnw a bennir yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd o dan adran 5(1), sef cyfnod na all fod yn llai na 28 diwrnod ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad hwnnw.
(2) Rhaid i hysbysiad o wrthwynebiad o dan adran 5(3) ddatgan seiliau'r gwrthwynebiad.
(3) Rhaid i'r copi o'r hysbysiad o wrthwynebiad y mae'n ofynnol iddo gael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (1) gael ei gyfeirio at Is-adran Diogelu'r Amgylchedd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
(4) Rhaid i'r copi o'r hysbysiad o wrthwynebiad y mae'n ofynnol iddo gael ei gyflwyno i'r awdurdod diogelu'r arfordir gael ei gyfeirio at Brif Weithredwr yr awdurdod hwnnw yn ei brif swyddfa.
6 

(1) Caiff unrhyw ddogfen y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi, ei chyflwyno trwy gyfathrebiad electronig, yn ogystal â thrwy unrhyw fodd arall a awdurdodir gan y Ddeddf a dylid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ysgrifen, sut bynnag y mae wedi'i fynegi, mewn perthynas â dogfen y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi, fel cyfeiriad sy'n cynnwys cyfeiriad at ffurf y mae modd ei storio ar gyfrifiadur, ei throsglwyddo i gyfrifiadur ac ohono, a'i darllen drwy gyfrwng cyfrifiadur.
(2) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i:
(a) unrhyw gopi o hysbysiad o wrthwynebiad o dan adran 5(3) o'r Ddeddf; a
(b) unrhwy gopi o hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir, os yw'r person y mae'n rhaid cyflwyno'r hysbysiad iddo yn cytuno i dderbyn cyflwyno'r ddogfen honno trwy gyfathrebiad electronig.
7 
Diddymir, trwy hyn, Reoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) 1950 mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2003
ATODLEN
Rheoliad 3
