
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) Diwygio (Cymru) 2003, mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru a daw i rym ar 18 Gorffennaf 2003.
2 
Ym mharagraff 6 o Atodlen 1 (Gweithrediadau a Eithrir) i Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) 1954 yn lle'r geiriau “in Wales, 4 weeks” rhoddir “in Wales, 8 days”.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2003