
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Medi 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 neu wedyn.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau)1997 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(2), yn lle “£12,227” rhoddir “£12,508”.
(3) Yn lle rheoliad 2(3)(a) a (b) rhoddir —“
(a) £77 where the relevant income does not exceed £11,626; and
(b) £40 where that income exceeds £11,626 but does not exceed £12,508.”
(4) Yn rheoliad 4 —
(a) ym mharagraff (3), yn lle “£11,381” rhoddir “£11,639”; a
(b) ym mharagraff (4) —
(i) yn lle “£11,381” rhoddir “£11,639”, a
(ii) yn lle “£11,202” rhoddir “£11,460”.
(5) Yn rheoliad 9(3), wedi is-baragraff (b) rhowch“or
(c) Child Tax Credit prescribed for the purposes of section 512ZB(4)(a)(iv) of the Education act 1996.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Gorffennaf 2003