
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) (Diwygio) 2003; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2003.
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001.
3 
Diwygir y prif Reoliadau —
(a) yn rheoliad 2(1) —
(i) drwy roi yn lle'r diffiniad o “rhanbarthau penodedig”, y diffiniad canlynol: “ystyr “rhanbarth penodedig” (“specified region”) at ddibenion pwynt A o Atodiad VI i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999, yw'r holl ran honno o Gymru sydd wedi'i lleoli ar uchder llai na 220 metr uchlaw lefel y môr”;
(ii) drwy fewnosod, yn y man priodol ar ei gyfer yn ôl trefn yr wyddor, y diffiniad canlynol -“
 mae “cynnyrch sector gwin” (“wine sector product”), at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn cynnwys unrhyw win wedi'i bersawru;”;
(iii) yn y diffiniad o “y Bwrdd Safonau Gwin” drwy roi yn lle'r geiriau “Cwmni'r Gwinyddion” y geiriau “cwmni cyfyngedig drwy warant sydd â'r Rhif cofrestru cwmni 1127386”;
(b) yn rheoliadau 5, 6(1), 6(3)(a) a 6(4) ac Atodlen 3, drwy roi, yn ôl fel y digwydd, y geiriau “yn y rhanbarth penodedig” yn lle'r geiriau “yng Nghymru” a'r geiriau “o'r rhanbarth penodedig” yn lle'r geiriau “o Gymru”;
(c) yn rheoliadau 5, 14 ac 16 drwy roi yn lle'r geiriau “rhanbarthau penodedig” y geiriau “rhanbarth penodedig”;
(ch) drwy fewnosod ar ôl rheoliad 6 y rheoliadau canlynol —“
6A. 
Rhaid i ddatganiadau sy'n cael eu cyflwyno bob blwyddyn at ddibenion Erthyglau 2 a 4 o Reoliad y Comisiwn (EC) 1282/2001 gymryd i ystyriaeth y meintiau a ddelir ar 1 Rhagfyr yn y flwyddyn honno.
6B. 
Rhaid cyflwyno hysbysiad cyfoethogi fel y cyfeirir ato yn Atodiad V(G)(5) i Reoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 i'r corff cymwys o leiaf 48 awr cyn dechrau'r weithred gyfoethogi.”.
(e) drwy roi yn lle paragraff (1) o reoliad 8 y paragraff canlynol —“
8 

(1) Pan fydd swyddog awdurdodedig yn archwilio unrhyw gynnyrch sector gwin, caiff y swyddog awdurdodedig wahardd ei symud os oes ganddo reswm dros gredu
(a) bod tramgwydd wedi'i gyflawni, neu'n debyg o gael ei gyflawni mewn perthynas ag ef, drwy dorri unrhyw ddarpariaeth Gymunedol berthnasol y cyfeirir ati yng ngholofnau 1 neu 2 o Ran I, II, III, V neu IX o Atodlen 2 neu drwy fethu â chydymffurfio â hi;
(b) bod yna risg neu ei bod yn debyg y bydd yna risg i iechyd y cyhoedd mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw; neu
(c) bod y cynnyrch hwnnw wedi'i drin yn dwyllodrus neu'n debyg o gael ei drin yn dwyllodrus.”.
(dd) drwy ddileu rheoliad 13;
(e) drwy roi yn lle Atodlen 1 yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
(f) yn eitem 1 o Ran I o Atodlen 2, drwy roi yn lle'r cofnod yng ngholofn 2 y geiriau —“
 Rheoliad 884/2001: Pob erthygl ac eithrio 1, 2, 9, 17, 18, 20, 21, 22 a 23”;
(ff) yn eitem 1 o Ran IV o Atodlen 2, drwy roi yn lle'r cofnod yng ngholofn 2 y geiriau“
 Rheoliad 1282/2001: Erthyglau 2, 3, 4, 6 ac 11”;
(g) drwy roi yn lle eitem 1 o Ran V o Atodlen 2, yr eitem ganlynol:“

1. 
Rheoliad 1493/1999: Teitl V Rheoliad 883/2001: Pob erthygl ac eithrio 6, 7, 13, 16, 19, 29, 34, 35 a 36 Gofynion ynglŷn â masnachu â thrydydd gwledydd mewn cynhyrchion yn y sector gwin”
(ng) yng ngholofn 1 o Atodlen 3, drwy ddileu'r seren o flaen enwau'r amrywogaethau canlynol: “Orion”, “Phoenix”, “Regent” a “Rondo (GM 6494/5)”;
(k) drwy ddileu Atodlen 4;
(i) yn eitem 2 o Atodlen 5 drwy roi
(i) yn lle'r geiriau “Cyfanswm Echdyniad Sych” y geiriau “Cyfanswm Echdyniad Sych Disiwgr”; a
(ii) yn lle “15 g/l”, “14 g/l”; a
(j) yn eitem 4 o Atodlen 5, drwy roi yn lle “5 g/l”, “4g/l”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Gorffennaf 2003
ATODLEN 1
Rheoliad 3(e)
“
ATODLEN 1
Rheoliad 2(1)


Y mesurau sy'n cynnwys y darpariaethau Cymunedol Cofnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd: Y cyfeiriad

1. 
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1135/70 ynghylch hysbysu, plannu ac ailblannu gwinwydd er mwyn rheoli datblygu plannu OJ Rhif L134, 19.6.70, t.2 (OJ/SE1970(II) t.379)

2. 
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 357/79 ynghylch arolygon ystadegol o arwynebeddau sydd o dan winwydd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2329/98 (OJ Rhif L29, 31.10.98, t.2) OJ Rhif L54, 5.3.79, t.124

3. 
Deddf ynghylch amodau ymuno Gweriniaeth Groeg a'r addasiadau i'r Cytuniadau yn diwygio amrywiol Reoliadau ynghylch gwin yn sgil ymuno Groeg, a lofnodwyd ar 28 Mai 1979 OJ Rhif L291, 19.11.79, t.17

4. 
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1907/85 ar y rhestr o amrywogaethau o winwydd a'r rhanbarthau sy'n darparu gwin wedi'i fewnforio ar gyfer gwneud gwinoedd pefriol yn y Gymuned OJ Rhif L179, 11.7.85, t.21

5. 
Deddf ynghylch amodau ymuno Teyrnas Sbaen a Gweriniaeth Portiwgal a'r addasiadau i'r Cytuniadau, a lofnodwyd ar 12 Mehefin 1985 OJ Rhif L302, 15.11.85, t.23

6. 
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3805/85 yn addasu Rheoliadau penodol ynghylch y sector gwin, oherwydd ymuno Sbaen a Phortiwgal OJ Rhif L367, 31.12.85, t.39

7. 
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2392/86 yn sefydlu cofrestr Gymunedol o winllannoedd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1631/98 (OJ Rhif L210, 28.7.98, t.14)  OJ Rhif L208, 31.7.86, t.1

8. 
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 649/87 yn gosod rheolau manwl ar gyfer sefydlu cofrestr Gymunedol o winllannoedd fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1097/89 (OJ Rhif L116, 28.4.89, t.20) OJ Rhif L 62, 5.3.87, t.10

9. 
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2676/90 yn pennu dulliau Cymunedol ar gyfer dadansoddi gwinoedd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000 (OJ Rhif L194, 31.7.2000, t.1) OJ Rhif L272, 3.10.90, t.1

10. 
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 3201/90 yn gosod rheolau manwl ar gyfer disgrifio a chyflwyno gwinoedd a mystau grawnwin, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2770/98 (OJ Rhif L346, 22.12.98, t.25) OJ Rhif L 309, 8.11.90, t.1

11. 
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1601/91 yn gosod rheolau cyffredinol ar ddiffinio, disgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 2061/96 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L277, 30.10.96, t.1) OJ Rhif L149, 14.6.91, t.1

12. 
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 3901/91 yn gosod rheolau manwl penodol ar ddisgrifio a chyflwyno gwinoedd arbennig OJ Rhif L368, 31.12.91, t.15

13. 
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2009/92 yn pennu dulliau dadansoddi Cymunedol ar gyfer ethyl alcohol o darddiad amaethyddol a ddefnyddir i baratoi diodydd gwirodydd, gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru OJ Rhif L203, 21.7.92, t.10

14. 
Penderfyniad y Cyngor Rhif 93/722/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Bwlgaria ar gyd-ddiogelu a chyd-reoli enwau gwinoedd OJ Rhif L337, 31.12.93, t.11

15. 
Penderfyniad y Cyngor Rhif 93/723/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Hwngari ar gyd-ddiogelu a chyd-reoli enwau gwinoedd OJ Rhif L337, 31.12.93, t.83

16. 
Penderfyniad y Cyngor Rhif 93/726/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Romania ar gyd-ddiogelu a chyd-reoli enwau gwinoedd OJ Rhif L337, 31.12.93, t.177

17. 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 122/94 yn gosod rheolau manwl ar gymhwysiad Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1601/91 ar ddiffinio, disgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru, a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru OJ Rhif L21, 26.1.94, t.7

18. 
Penderfyniad y Cyngor 94/184/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd ac Awstralia ar fasnachu gwin OJ Rhif L86, 31.3.94, t.1

19. 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 554/95 yn gosod rheolau manwl ar gyfer disgrifio a chyflwyno gwinoedd pefriol a gwinoedd pefriol awyredig, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1915/96 (OJ Rhif L252, 4.10.96, t.10) OJ Rhif L56, 14.3.95, t.3

20. 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2585/2001 (OJ Rhif L345, 29.12.01, t.10) OJ Rhif L179,14.7.1999, t.1

21. 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1227/2000 yn gosod rheolau manwl ar gymhwysiad Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, yn benodol ar y potensial ar gyfer cynhyrchu, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1342/2002 (OJ Rhif L196, 25.7.2002, t.23) OJ Rhif L143, 16.6.2000, t.1

22. 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1607/2000 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, yn benodol y Teitl sy'n ymwneud â gwin o safon a gynhyrchir mewn rhanbarthau penodedig OJ Rhif L185, 25.7.2000, t.17

23. 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000 yn gosod rheolau manwl penodol ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin ac yn sefydlu cod Cymunedol o arferion a phrosesau gwinyddol, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2244/2002 (OJ Rhif L341, 16.12.2002, t.27) OJ Rhif L194, 31.7.2000, t.1

24. 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin o ran mecanweithiau'r farchnad, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1705/2002 (OJ Rhif L272, 10.10.2002, t.15) OJ Rhif L194, 31.7.2000, t.45

25. 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2729/2000 yn gosod rheolau manwl ar ddulliau rheoli yn y sector gwin OJ Rhif L316, 15.12.2000, t.16

26. 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 678/2001 ynghylch gwneud cytundebau ar ffurf Cyfnewid Llythyron rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Bwlgaria, Gweriniaeth Hwngari a Romania ar gyd-gonsesiynau masnachu ar gyfer gwinoedd a gwirodydd penodol OJ Rhif L94, 4.4.2001, t.1

27. 
Rheoliad y Comisiwn (EC) 883/2001 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ynglŷn â'r fasnach gyda thrydydd gwledydd mewn cynhyrchion yn y sector gwin, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2380/2002 (OJ Rhif L358, 31.12.2002, t.10) OJ Rhif L128, 10.5.2001, t.1

28. 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001 yn gosod rheolau cymhwyso manwl ar y dogfennau sydd i fynd gyda chynhyrchion gwin wrth iddynt gael eu cludo ac ar y cofnodion perthnasol sydd i gael eu cadw yn y sector gwin fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1782/2002 (OJ Rhif L270, 08.10.2002, t.4) OJ Rhif L128, 10.5.2001, t.32

29. 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1037/2001 yn awdurdodi cynnig a danfon i bobl eu hyfed yn uniongyrchol winoedd penodol sydd wedi'u mewnforio ac sydd wedi mynd drwy brosesau na ddarparwyd ar eu cyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999 OJ Rhif L145, 31.5.2001, t.12

30. 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1282/2001 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar grynhoi gwybodaeth i adnabod cynhyrchion gwin ac i fonitro'r farchnad win OJ Rhif L176, 29.6.2001, t.14

31. 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2597/2001 yn agor cwotâu tariff Cymunedol ar gyfer gwinoedd penodol yn deillio o Weriniaeth Croatia ac yn darparu ar gyfer gweinyddu'r cwotâu hynny OJ Rhif L345, 29.12.2001, t.35

32. 
Penderfyniad y Cyngor Rhif 2002/51/EC ar wneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth De Affrica ar fasnachu gwin OJ Rhif L28, 30.1.2002, t.3

33. 
Penderfyniad y Cyngor a'r Comisiwn Rhif 2002/309/EC ynglŷn â'r cytundeb ar gydweithrediad gwyddonol a thechnolegol dyddiedig 4 Ebrill 2002 ar wneud saith Cytundeb gyda Chydffederasiwn y Swisdir, yn benodol darpariaethau Atodiad 7 ar Fasnachu cynhyrchion Sector Gwin sydd wedi'u cynnwys yn y Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chydffederasiwn y Swisdir ar Fasnachu Cynhyrchion Amaethyddol OJ Rhif L114, 30.4.2002, t.1”