
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Awst 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999.
3 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “anghenion addysgol arbennig” (“special educational needs”) yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312(1) o Ddeddf Addysg 1996);
 ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;
 ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r flwyddyn ysgol sy'n gymwys i'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod o dan sylw neu, os nad yw'r un flwyddyn ysgol yn gymwys i bob ysgol o'r fath, y flwyddyn ysgol sy'n gymwys i'r nifer fwyaf o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw;
 ystyr “cynllun” (“plan”) yw cynllun trefniadaeth ysgolion a rhaid dehongli “cynllun drafft” (“draft plan”) yn unol â hynny; ac
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
4 

(1) At ddibenion adran 26(2)(a) ac (ab) o'r Ddeddf (sy'n darparu mai datganiad yw cynllun trefniadaeth ysgol sy'n nodi sut mae'r awdurdod yn bwriadu arfer ei swyddogaethau a'i bwerau yn ystod y cyfnod rhagnodedig gyda golwg ar sicrhau darpariaeth addysg gynradd ac uwchradd a fyddai'n diwallu anghenion poblogaeth ei ardal yn ystod cyfnod hwnnw), y cyfnod rhagnodedig yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y caiff y cynllun ei fabwysiadu gan yr awdurdod o dan reoliad 8 neu 9 ac sy'n dod i ben ar ddiwedd y bumed flwyddyn ysgol ar ôl y flwyddyn ysgol pan gyhoeddwyd y cynllun drafft hwnnw.
(2) Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (1) at gyhoeddi'r y cynllun drafft yn gyfeiriad at y cynllun drafft cychwynnol hwnnw a gyhoeddwyd o dan reoliad 5, ni waeth a gafodd cynllun drafft o'r newydd a oedd yn disodli'r cynllun drafft hwnnw ei gyhoeddi wedyn o dan reoliad 9(1).
(3) Yn benodol rhaid i'r cynllun ymdrin â —
(a) gwybodaeth ddemograffig sy'n berthnasol i gyflenwad lleoedd mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod;
(b) gwybodaeth ystadegol sy'n ymwneud â'r nifer o leoedd sydd mewn bodolaeth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod;
(c) datganiad polisïau ac egwyddorion sy'n berthnasol i ddarparu lleoedd mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod;
(ch) casgliadau, ar sail gwybodaeth ddemograffig ac ystadegol, polisïau ac egwyddorion, yn ymwneud ag unrhyw ormodedd neu annigonoldeb o ran darpariaeth addysg gynradd ac uwchradd mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn ystod y cyfnod y mae'r cynllun yn ymwneud ag ef;
(d) cynigion yr awdurdod ar gyfer cywiro unrhyw ormodedd neu annigonoldeb o ran darparu addysg gynradd ac uwchradd mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn ystod y cyfnod y mae'r cynllun yn ymwneud ag ef; a
(dd) y ddarpariaeth y mae'r awdurdod yn bwriadu ei gwneud yn ystod y cyfnod hwnnw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.
(4) Yn gysylltiedig â pharatoi'r cynllun yn unol â'r rheoliad hwn, a mewn perthynas â gweithredu'r cynllun, mae'r awdurdod i ystyried canllawiau sy'n cael eu cyhoeddi gan y Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
5 

(1) Rhaid i'r awdurdod gyhoeddi cynllun drafft drwy wneud y canlynol —
(a) anfon (yn ddarostyngedig i -baragraff (2)) gopi at y canlynol —
(i) corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod;
(ii) Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol pob un o esgobaethau'r Eglwys yng Nghymru, lle y mae'r cyfan neu unrhyw ran o ardal yr esgobaeth honno yn dod o fewn ardal yr awdurdod;
(iii) Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol pob un o esgobaethau'r Eglwys Gatholig Rufeinig, lle y mae'r cyfan neu unrhyw ran o ardal yr esgobaeth honno yn dod o fewn ardal yr awdurdod;
(iv) Cyngor Cenhadaeth a Gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru;
(v) Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru;
(vi) Cyd-bwyllgor Addysg Cymru;
(vii) Bwrdd yr Iaith Gymraeg;
(viii) Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;
(ix) Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;
(x) Consortiwm Cymunedol Addysg a Hyfforddiant ar gyfer ardal yr awdurdod neu gorff arall o'r fath sydd yn cynrychioli darparwyr lleol ar gyfer addysg a hyfforddiant i bersonau dros oedran ysgol gorfodol; a
(xi) Cynulliad Cenedlaethol Cymru; a
(b) adneuo copi yn y llyfrgelloedd cyhoeddus hynny yn ardal yr awdurdod y mae'r awdurdod yn barnu eu bod yn briodol.
(2) Ni fydd is-baragraff (1)(a)(i) yn gymwys mewn perthynas â chorff llywodraethu unrhyw ysgol os yw'r awdurdod yn cyhoeddi'r cynllun drafft ar y Rhyngrwyd a hynny ar wefan yr awdurdod a bod gan yr ysgol gyfleusterau sy'n caniatáu cyrchu'r cynllun ar y Rhyngrwyd.
(3) Ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, rhaid cyhoeddi'r cynllun drafft cyntaf ar 31 Rhagfyr 2003, neu cyn hynny.
(4) Rhaid i'r awdurdod baratoi a chyhoeddi cynlluniau drafft pellach ar 31 Rhagfyr 2006 neu cyn hynny, ac ar 31 Rhagfyr neu cyn hynny o fewn pob trydedd flwyddyn ar ôl hynny.
(5) Rhaid i'r awdurdod baratoi a chyhoeddi cynllun drafft ychwanegol mewn unrhyw flwyddyn pan nad yw'n rhaid iddynt gyhoeddi cynllun drafft ychwanegol yn unol â pharagraff (4), os bu unrhyw newid o ran polisi neu amgylchiadau lleol sydd yn ymwneud â darpariaeth addysg gynradd neu uwchradd ers i'r cynllun diwethaf gael ei baratoi.
(6) Cyn cyhoeddi cynllun drafft rhaid i'r awdurdod ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn bersonau priodol.
6 
Yr un pryd ag y bydd yn cyhoeddi cynllun drafft rhaid i'r awdurdod gyhoeddi hysbysiad mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod—
(a) yn datgan ymhle y gellir archwilio'r cynllun drafft,
(b) yn rhoi crynodeb o gasgliadau'r cynllun drafft,
(c) yn pennu'r rhannau hynny o ardal yr awdurdod, os deuir i'r casgliad yn y cynllun y dylai camau gael eu cymryd, i gywiro unrhyw ormodedd neu annigonoldeb o ran darparu addysg gynradd neu uwchradd mewn ysgolion a gynhelir mewn rhannau o ardal yr awdurdod, ac
(ch) yn datgan effaith rheoliadau 7 i 11.
7 

(1) Caniateir i unrhyw berson gyflwyno sylwadau ar gynllun drafft.
(2) Rhaid i'r sylwadau hynny gael eu hanfon at yr awdurdod o fewn y cyfnod o ddeufis ar ôl dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad yn unol â rheoliad 6 (neu os cafodd hysbysiadau eu cyhoeddi mewn papurau newydd gwahanol ar ddyddiadau gwahanol, ar ôl dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad diwethaf o'r fath).
8 

(1) Ar ôl cyhoeddi cynllun drafft ac ar ôl i'r cyfnod y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 7(2) ddod i ben, rhaid i'r awdurdod, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a anfonwyd ato o fewn y cyfnod hwnnw, benderfynu a ddylai'r cynllun gael ei fabwysiadu ganddo neu beidio (a hynny gydag addasiadau neu hebddynt).
(2) Rhaid i'r awdurdod wneud ei benderfyniad o dan baragraff (1) o fewn y cyfnod o ddeufis ar ôl i'r cyfnod y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 7(2) ddod i ben.
(3) Os yw'r awdurdod yn penderfynu mabwysiadu'r cynllun drafft (gydag addasiadau neu hebddynt), rhaid i'w fabwysiadu dod i rym ar ddyddiad y penderfyniad.
9 

(1) Os yw'r awdurdod yn penderfynu o dan reoliad 8 i beidio â mabwysiadu'r cynllun drafft (gydag addasiadau neu hebddynt), rhaid iddo baratoi a chyhoeddi o dan y paragraff hwn gynllun drafft o'r newydd yn lle'r cynllun drafft hwnnw.
(2) Mae rheoliadau 5(1), 5(6), 6 a 7 i fod yn gymwys mewn perthynas â chynllun drafft o'r newydd a gyhoeddwyd o dan baragraff (1) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i gynlluniau drafft, ac eithrio bod rhaid i'r crynodeb o gasgliadau'r cynllun drafft a roddir yn yr hysbysiad sy'n cael ei gyhoeddi o dan reoliad 6 (fel y'i cymhwysir) gynnwys, yn achos cynllun drafft o'r newydd, ddatganiad byr o sut mae'r casgliadau hynny yn wahanol i'r rhai a roddwyd yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd o dan y rheoliad hwnnw mewn perthynas â'r cynllun drafft y mae'r cynllun drafft o'r newydd yn ei ddisodli, a rhaid i'r hysbysiad ddatgan effaith rheoliadau 7, 9(4), 10 ac 11 (yn lle effaith rheoliadau 7 i 11).
(3) Os yw'n ofynnol cyhoeddi cynllun drafft o'r newydd o dan baragraff (1), rhaid ei gyhoeddi o fewn y cyfnod o dri mis ar ôl i'r cyfnod, pan oedd yn ofynnol cyflwyno unrhyw sylwadau ar y cynllun drafft y mae'n ei ddisodli yn unol â rheoliad 7(2), ddod i ben.
(4) Ar ôl cyhoeddi cynllun drafft o'r newydd o dan y rheoliad hwn, ac ar ôl i'r cyfnod y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 7(2) (fel y'i cymhwysir gan baragraff (1)) fel cyfnod cyflwyno sylwadau ar y cynllun drafft o'r newydd ddod i ben, rhaid i'r awdurdod, o fewn y cyfnod o ddeufis ar ôl i'r cyfnod hwnnw ddod i ben, fabwysiadu'r cynllun drafft o'r newydd (gydag addasiadau neu hebddynt) a bydd ei fabwysiadu yn effeithiol ar ddyddiad ei fabwysiadu.
10 
Os yw cynllun wedi'i fabwysiadu gan awdurdod o dan reoliad 8 neu 9, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi'r cynllun fel y'i mabwysiadwyd drwy wneud y canlynol—
(a) gosod copi ar y Rhyngrwyd a hynny ar wefan yr awdurdod;
(b) hysbysu pob person a chorff a grybwyllwyd yn rheoliad 5(1) bod y cynllun ar gael ar y Rhyngrwyd a hynny ar wefan yr awdurdod; ac
(c) hysbysu'r llyfrgelloedd cyhoeddus hynny yn ei ardal y mae'n barnu eu bod yn briodol, bod y cynllun ar gael ar y Rhyngrwyd a hynny ar wefan yr awdurdod.
11 
Yr un pryd ag y byddant yn cyhoeddi cynllun a fabwysiadwyd o dan reoliad10, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi hysbysiad mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod—
(a) yn datgan ymhle y gellir archwilio'r cynllun, ac ymhle y gellir ei ddarganfod ar y Rhyngrwyd, a
(b) yn rhoi crynodeb o gasgliadau'r cynllun, ac
(c) yn pennu'r rhannau hynny o ardal yr awdurdod os deuir i'r casgliad yn y cynllun, y dylai camau gael eu cymryd i gywiro unrhyw ormodedd neu annigonoldeb o ran darparu addysg gynradd neu uwchradd mewn ysgolion a gynhelir mewn rhannau o ardal yr awdurdod.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Gorffennaf 2003