
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003.
2 
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn unig (ac eithrio mewn perthynas ag adrannau 139 a 197).
3 
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at Rannau, adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at Rannau ac adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
4 
1 Awst 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
5 
1 Medi 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
6 
1 Tachwedd 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan III o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Gorffennaf 2003
YR ATODLEN
Erthyglau 4, 5 a 6
RHAN I

Y ddarpariaeth Y pwnc
Adrannau 60 i 64 Pwerau ymyrryd —Awdurdodau addysg lleol
Adran 178(1) a (4) Arolygiadau ardal
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod Diddymiadau
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu —Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, adran 28Q(12),Deddf Addysg 1996, adrannau 483(3A), 483A(7), 490, 497A(3), yn adran 580, y cofnodion sy'n ymwneud â “city academy”, “city college for the technology of the arts”, “city technology college”,Deddf Dysgu a Medrau 2000, Atodlen 8. Diddymiadau
RHAN II

Y ddarpariaeth Y pwnc
Adran 19(6) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 1 isod Cyrff llywodraethu
Adrannau 27 a 28 Pŵer corff llywodraethu i ddarparu cyfleusterau cymunedol
Adran 29 Swyddogaethau ychwanegol cyrff llywodraethu
Adran 40 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 3 isod Diwygiadau i Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Adran 136 Addysg bellach : darparu addysg
Adran 137 Penaethiaid sefydliadau addysg bellach
Adran 138 Hyfforddiant mewn darparu addysg bellach
Adran 139 Cymru : darparu addysg uwch
Adran 140 Addysg bellach : cyffredinol
Adrannau 181 i 185 Lwfansau ar gyfer addysg neu hyfforddiant
Adran 197 Cytundebau a datganiadau partneriaeth
Adran 199 Cludiant ar gyfer personau dros oedran ysgol gorfodol
Adran 202 Sefydliadau addysg bellach : cofnodion
Adran 203 Sefydliadau addysg bellach : deunydd peryglus, etc
Adran 206 Niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd addysg
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod Diddymiadau
Atodlen 1, paragraff 3(1) (ac eithrio paragraff (a)) ac is-baragraffau (3) i (8) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r pŵer a roddir gan is-baragraff (1)(b) Cyrff llywodraethu
Atodlen 3, paragraffau 1 i 5 Diwygiadau i Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Atodlen 19 Cludiant ar gyfer personau dros oedran ysgol gorfodol
Atodlen 20 Niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd addysgol
Atodlen 21, Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Paragraff 4, 
Paragraff 34 
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu Diddymiadau
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, adran 40, 
Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, yn Atodlen 8, paragraff 90, 
Deddf Addysg 1996, adran 509(6), ac yn Atodlen 37, paragraff 55, 
Deddf Addysg 1997, yn Atodlen 7, paragraff 9(3), 
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998), yn Atodlen 30, paragraff 133(b). 
RHAN III

Y ddarpariaeth Y pwnc
Adran 43 Fforymau Ysgol