
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998; ac
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau, yn ôl eu trefn, at adrannau o Ddeddf 2002 ac Atodlenni iddi.
3 

(1) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y mae adran 21 yn dod i rym mewn perthynas â Chymru, mae adran 28(3) i fod i gael effaith fel petai'r geiriau “section 38(2) of the School Standards and Framework Act 1998” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “section 21(2)”.
(2) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y mae'r diffiniad o “maintained school” yn adran 39 yn dod i rym mewn perthynas â Chymru, mae cyfeiriadau yn adrannau 27, 29(1) a pharagraff 3 o Atodlen 1 (i'r graddau y mae mewn grym) at “maintained school” i fod i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at ysgol a gynhelir fel y diffinnir “maintained school” yn adran 20(7) o Ddeddf 1998.
(3) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y mae paragraff 1 o Atodlen 1 yn dod i rym mewn perthynas â Chymru, mae cyfeiriadau ym mhgaragraff 3 o'r Atodlen honno (i'r graddau y mae mewn grym) at “governing body” i fod i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir a ymgorfforwyd o dan adran 36(1) o Ddeddf 1998.
4 

(1)  Mae Gorchymyn Addysg (Trosglwyddo Swyddogaethau ynglŷn â Chiniawau Ysgolion) (Cymru) 1999) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2(1) mae'r geiriau “Subject to paragraph (3),” yn cael eu dileu.
(3) Yn erthygl 2(2)(a) mae'r geiriau “section 512(3) and (4)” yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau “section 512(1A) and (1B)”.
(4) Yn erthygl 2(2)(b) mae'r geiriau “section 512ZB(1)” yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau “section 512(3)(a)”.
(5) Mae erthygl 2(3) yn cael ei dirymu.
(6) Mae erthygl 5 sydd wedi'i Rhif o'n anghywir yn cael ei Rhif o'n erthygl 4.
(7) Yn erthygl 4(1) a (2) (fel y mae wedi'i hailrifo) mae'r geiriau “section 512ZA(2)” yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau “section 512(2)(b)” ym mhob man y maent yn ymddangos.
5 

(1) Mae Gorchymyn Addysg (Trosglwyddo Swyddogaethau ynglŷn â Chiniawau Ysgolion) (Cymru) (Rhif 2) 1999 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2(1) mae'r geiriau “Subject to paragraph (3)” yn cael eu dileu.
(3) Yn erthygl 2(2)(a) mae'r geiriau “section 512(3) and (4)” yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau “section 512(1A) and (1B)”.
(4) Yn erthygl 2(2)(b) mae'r geiriau “section 512ZB(1)” yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau “section 512(3)(a)”.
(5) Mae erthygl 2(3) yn cael ei dirymu.
(6) Yn erthygl 4(1) a (2) mae'r geiriau “section 512ZA(2)” yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau “section 512(2)(b)” ym mhob man y maent yn ymddangos.
6 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Staff Prydau Bwyd Ysgolion) (Cymru) 1999 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y diffiniad o “Gorchymyn adran 512A” yn rheoliad 1(3) mae'r geiriau “adran 512A(2)(b)” yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau “adran 512(2)(b)”.
7 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 18(2)(d) mae'r gair “Academi” yn cael ei roi yn lle'r geiriau “Academi Dinas”.
8 

(1) Mae Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1)(b)(i) mae'r gair “academi” yn cael ei roi yn lle'r geiriau “academi dinas”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Gorffennaf 2003