
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 10 Gorffennaf 2003.
2 

(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr y “Prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989.
3 
Diwygir y Prif Reoliadau fel a ganlyn —
(a) yn rheoliad 13(1) hepgorir —
(i) “(in which case the order shall be in the form specified as Form A in Schedule 2, or a form to the like effect),”; a
(ii) “(in which case the order shall be in the form specified as Form B in that Schedule, or a form to the like effect)”;
(b) yn rheoliad 17(1) hepgorir “, and shall be in the form specified as Form C in Schedule 2, or in a form to the like effect”; a
(c) hepgorir Atodlen 2.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Gorffennaf 2003