
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003, deuant i rym ar 23 Gorffennaf a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995), i'r graddau eu bod yn gymwys i Gymru, yn unol â pharagraffau canlynol y Rheoliadau hyn.
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “permitted sweetener”, rhoddir y diffiniad canlynol—“
 “permitted sweetener” means the sweetener salt of aspartame-acesulfame so far as it satisfies the purity criteria for it set out at pages 19 to 21 of the Food and Agriculture Organisation’s Compendium of Food Additives Specifications Addendum 8 (2000) FAO Food and Nutrition Paper 52 Addendum 8 and any sweetener specified in column 2 of Schedule 1 which satisfies the specific purity criteria for that sweetener set out —
(a) in the case of sucralose, at pages 119 to 124 of the Food and Agriculture Organisation’s Compendium of Food Additives Specifications Addendum 2 (1993) FAO Food and Nutrition Paper 52 Addendum 2; and
(b) in the case of any sweetener other than sucralose, in the Annex to Directive 95/31/EC.”
(3) Rhoddir yr is-baragraff canlynol yn lle is-baragraff (c) o reoliad 2(3) —“
(c) in column 4, the maximum usable dose indicated in relation to a food is —
(i) in the case of all permitted sweeteners except cyclamic acid and its Na and Ca salts, saccharin and its Na, K and Ca salts and salt of aspartame-acesulfame, the maximum amount, in milligrams, of permitted sweeteners per kilogram or, as the case may be, per litre of that food which is ready to eat having been prepared according to any instructions for use,
(ii) in the case of cyclamic acid and its Na and Ca salts and saccharin and its Na, K and Ca salts, the maximum amount of free acid contained in the cyclamic acid and its Na and Ca salts or, as the case may be saccharin, and its Na, K and Ca salts present in that food which is ready to eat having been prepared according to any instructions for use, measured in milligrams per kilogram or, as the case may be, per litre of the food.”.
(4) Ym mharagraff (3) o reoliad 3 (gwerthu a defnyddio melysyddion) rhoddir yr ymadrodd “paragraphs (4) and (5)” yn lle'r ymadrodd “paragraph (4)”.
(5) Mewnosodir y paragraff canlynol yn union ar ôl paragraff (4) o reoliad 3 —“
(5) The prohibition on using aspartame and acesulfame K in or on any food which is imposed by virtue of paragraph (3) above shall apply equally in relation to the use of salt of aspartame-acesulfame in or on that food.”.
3 

(1) Bydd paragraff (2) o reoliad 3 (diwygiadau canlyniadol) o Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2002 yn peidio â bod yn effeithiol.
(2) Yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (3), i'r graddau eu bod yn gymwys i Gymru, dehonglir cyfeiriadau at Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u digwygiwyd hyd at, a chan gynnwys, y diwygiadau y mae'r Rheoliadau hyn yn eu gwneud yn effeithiol.
(3) Dyma'r darpariaethau—
(a) diffiniad “permitted sweetener” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981;
(b) diffiniad “additive” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984;
(c) diffiniad “sweetener” yn Rhan II o Atodlen 1 (categorïau o ychwanegion bwyd) i Reoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992);
(ch) diffiniad “sweetener” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995; a
(d) yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996)—
(i) paragraff (1) o reoliad 34 (bwydydd sy'n cynnwys melysyddion, siwgr a melysyddion wedi eu hychwanegu, aspartame neu polyols), a
(ii) yn Atodlen 8 (disgrifiadau camarweiniol), Rhan I (cyffredinol), yr amod yng ngholofn 2 gyferbyn â disgrifiad “ice cream” yng ngholofn 1.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Gorffennaf 2003