
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 31 Ionawr 2003.
2 
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002.
3 
Yn erthygl 1(2) o'r prif Orchymyn rhoddir y geiriau “1 Ebrill 2003” yn lle “1 Chwefror 2003”.
4 
Yn erthygl 2 o'r prif Orchymyn, mewnosodir y canlynol yn y mannau priodol yn nhrefn y wyddor—“
 ystyr “Marc” (“Mark”) yw un o'r canlynol: Marc F, Marc R, Marc S, Marc Tarddiad, neu Farc X;
 ystyr “Marc F” (“F Mark”) yw Marc F yn unol ag erthygl 6(1) a (4);
 ystyr “Marc R” (“R Mark”) yw Marc R yn unol ag erthygl 6(1) a (6);
 ystyr “Marc S” (“S Mark”) yw Marc S yn unol ag erthygl 6(1) a (7);
 ystyr “Marc Tarddiad” (“Origin Mark”) yw Marc Tarddiad yn unol ag erthygl 6(1) a (5);
 mae i “Rhif adnabod unigol” (“individual identification number”) yr ystyr a roddir yn erthygl 6(9) a (10);”.
5 
Ar ôl erthygl 2, mewnosodir yr erthygl canlynol—“
2A. 
Yn y Gorchymyn hwn nid yw cyfeiriad at ofyniad i ddodi neu gofnodi Rhif adnabod unigol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Rhif adnabod unigol gael ei ddodi na'i gofnodi os yw'r Rhif hwnnw wedi ei ddodi neu ei gofnodi eisoes fel rhan o Farc.”.
6 

(1) Caiff erthygl 4 o'r prif Orchymyn ei diwygio yn unol â'r erthygl hon.
(2) Yn lle paragraff (2), is-baragraff (c)(iv) rhoddir y canlynol—“
(iv) os bydd dafad yn dwyn uchafswm y marciau a ganiateir o dan erthygl 10, y Rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd ar yr un pryd â'r Rhif adnabod unigol;”.
(3) Ar ôl paragraff (2), mewnosodir y canlynol—“
(2A) Nid yw'r gofyniad i gofnodi Marc Tarddiad, Marc F neu Farc R o dan is-baragraffau (2)(c)(ii) a (iii) uchod yn ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad gofnodi Rhif adnabod unigol y ddafad a symudwyd.”.
7 

(1) Caiff erthygl 5 o'r prif Orchymyn ei diwygio yn unol â'r erthygl hon.
(2) Yn lle paragraff (2), is-baragraff (c)(iv) rhoddir y canlynol—“
(iv) os bydd gafr yn dwyn uchafswm y marciau a ganiateir o dan erthygl 10, y Rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd ar yr un pryd â'r Rhif adnabod unigol;”.
(3) Ym mharagraff (2), is-baragraff (f) o'r testun Saesneg yn unig, rhoddir y geiriau “to or from a show” yn lle “to a show”.
(4) Ar ôl paragraff (2), mewnosodir y canlynol—“
(2A) Nid yw'r gofyniad i gofnodi Marc Tarddiad, Marc F neu Farc R o dan is-baragraffau (2)(c)(ii) a (iii) uchod yn ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad gofnodi Rhif adnabod unigol yr afr a symudwyd.”.
8 

(1) Diwygir erthygl 6 o'r prif Orchymyn yn unol â'r erthygl hon.
(2) Yn lle paragraff (4) rhoddir y canlynol—“
(4) Marc F—
(a) pan fydd wedi ei farcio ar dag clust, yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—
(i) os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003—(aa) y llythrennau “UK”;(bb) marc diadell neu farc gyr y daliad y mewnforiwyd yr anifail iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd; a(cc) y llythyren “F”; neu
(ii) os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—(aa) y llythrennau “UK”;(bb) marc diadell neu farc gyr y daliad y mewnforiwyd yr anifail iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd;(cc) Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; a(chch) y llythyren “F”; neu
(b) pan fydd wedi ei farcio â thatŵ , yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—
(i) os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003—(aa) marc diadell neu farc gyr y daliad y mewnforiwyd yr anifail iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd; a(bb) y llythyren “F”; neu
(ii) os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—(aa) marc diadell neu farc gyr y daliad y mewnforiwyd yr anifail iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd;(bb) Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; a(cc) y llythyren “F”;”.
(3) Yn lle paragraff (5) rhoddir y canlynol—“
(5) Marc Tarddiad—
(a) pan fydd wedi ei farcio ar dag clust, yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—
(i) os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003—(aa) y llythrennau “UK”;(bb) marc diadell neu farc gyr daliad geni'r anifail; neu
(ii) os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—(aa) y llythrennau “UK”;(bb) marc diadell neu farc gyr daliad geni'r anifail; a(cc) Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; neu
(b) pan fydd wedi ei farcio â thatŵ , yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—
(i) os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003, marc diadell neu farc gyr daliad geni'r anifail; neu
(ii) os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—(aa) marc diadell neu farc gyr daliad geni'r anifail; a(bb) Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw;”.
(4) Yn lle paragraff (6) rhoddir y canlynol—“
(6) Marc R—
(a) pan fydd wedi ei farcio ar dag clust, yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—
(i) os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003—(aa) y llythrennau “UK”;(bb) marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly; a(cc) y llythyren “R”; neu
(ii) os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—(aa) y llythrennau “UK”;(bb) marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly;(cc) Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; a(chch) y llythyren “R”; neu
(b) pan fydd wedi ei farcio â thatŵ , yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—
(i) os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003—(aa) marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly; a(bb) y llythyren “R”; neu
(ii) os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—(aa) marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly;(bb) Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; a(cc) y llythyren “R”;”.
9 
Yn lle paragraff (2) o erthygl 7 o'r prif Orchymyn, rhoddir y canlynol—“
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag anifail—
(a) a oedd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi ei farcio yn unol ag erthygl 8(4) neu (5) neu erthgyl 15 o Orchymyn Defaid a Geifr 2000; neu
(b) a oedd wedi ei farcio â Marc Tarddiad ar 31 Ionawr 2003 neu cyn hynny.”.
10 
Yn erthygl 9(2)(dd) o'r prif Orchymyn, dilëir y geiriau “ac wedi'i farcio â Rhif adnabod unigol”.
11 

(1) Diwygir erthygl 12 o'r prif Orchymyn yn unol â'r erthygl hon.
(2) Ym mharagraff (2), is-baragraff (a)(ii), yn lle “Reoliadau 2000; neu” rhoddir “Reoliadau 2000;”.
(3) Ym mharagraff (2), is-baragraff (a)(iii), mewnosodir “neu” ar ôl “Marc R”.
(4) Yn lle paragraff (2), is-baragraff (a)(iv) rhoddir y canlynol—“
(iv) os yw anifail yn dwyn uchafswm y marciau a ganiateir o dan erthygl 10, y Rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd ar yr un pryd â'r Rhif adnabod unigol;”.
(5) Ar ôl paragraff (2), mewnosodir y paragraff canlynol—“
(2A) Nid yw'r gofyniad i gofnodi Marc Tarddiad, Marc F neu Farc R o dan baragraffau (2)(a)(ii) neu (iii) uchod yn ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad gofnodi Rhif adnabod unigol yr anifail a symudwyd.”.
12 

(1) Diwygir erthygl 13 o'r prif Orchymyn yn unol â'r erthygl hon.
(2) Yn lle paragraff (2), is-baragraffau (b) ac (c) rhoddir y canlynol—“
(b) os Marc Tarddiad oedd y Marc gwreiddiol, dodi naill ai—
(i) tag â'r llythrennau “UK” wedi eu dilyn â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw wedi ei ddilyn â Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; neu
(ii) tatŵ â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw wedi ei ddilyn â Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw;
(c) os Marc F oedd y Marc gwreiddiol, dodi naill ai—
(i) tag â'r llythrennau “UK” wedi eu dilyn â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw wedi ei ddilyn â Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw wedi ei ddilyn â'r llythyren F; neu
(ii) tatŵ â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw wedi ei ddilyn â Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw wedi ei ddilyn â'r llythyren F;
(ch) os Marc R oedd y Marc gwreiddiol, dodi Marc R newydd; neu
(d) os na ellir gwneud y gweithredoedd yn is-baragraffau (a), (b), (c), dodi Marc R.”.
(3) Ar ôl paragraff (2) mewnosodir y paragraff canlynol—“
(2A) Rhaid i Farc a ddodwyd o dan is-baragraffau (2)(b), (c) neu (ch) gael ei groesgyfeirio â'r Marc gwreiddiol yn y cofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan erthygl 4 neu 5.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
John Marek
Dirprwy Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Ionawr 2003Whitty
Is-Ysgrifennydd Seneddol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
30 Ionawr 2003