
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 10 Chwefror 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 

(1) Diwygir Atodlen 3 i Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 fel a ganlyn:
(a) ychwanegir y canlynol at y tabl o Swyddogaethau nad ydynt i fod yn Gyfrifoldeb i Weithrediaeth Awdurdod yn Unig:

Cynlluniau a Strategaethau Cyfeiriad
Strategaeth Iechyd a Llesiant Adran 24 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002
(b) diddymir y cofnod “Cynllun Gwasanaethau Plant” yng ngholofn (1) a'r cyfeiriad cysylltiedig yng ngholofn (2).
(c) diddymir y cofnod “Cynllun Gofal Cymunedol” yng ngholofn (1) a'r cyfeiriad cysylltiedig yng ngholofn (2).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Ionawr 2003