
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Rheoliadau hyn eu llofnodi.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Dirymir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2002.
3 
Yn lle paragraff (1) o reoliad 12 o'r prif Reoliadau (Aelodau cyd-bwyllgorau) rhowch—“
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, gellir penodi aelod neu swyddog awdurdod lleol i gyd-bwyllgor yn unol â rheoliad 11 uchod gan weithrediaeth, aelod o weithrediaeth neu bwyllgor gweithrediaeth, ac, yn achos aelod, ni waeth a yw'r person hwnnw yn aelod o'r weithrediaeth honno ai peidio, ac ni fydd y gofynion am gydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi aelodau o'r fath.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Ionawr 2003