
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999) yn cael eu diwygio fel a ganlyn:—
(a) Yn rheoliad 3(2) ar ôl y diffiniad o “cwmni” mewnosodwch—“
 ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;”.
(b)  Yn Rhan I o Atodlen 3—
(i) mewnosodwch ar ôl paragraff 1 (1)(b)—“
(ba) os yw wedi cael hysbysiad ysgrifenedig gan y Cyngor ei fod yn athro neu athrawes gymwysedig, gan fod y Cyngor wedi'i fodloni ar 1 Medi 2003 neu wedyn ei fod yn berson a grybwyllir ym mharagraffau 2 i 6 neu 8 ac, os yw'n berson a grybwyllir ym mharagraff 8 fod y datganiad a gyflwynwyd gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey yn gywir; neu”;
(ii) ym mharagraff 1(1) ar ôl y geiriau “o dan baragraff (b)” mewnosodwch y geiriau “neu (ba)”, ac ar ôl y geiriau “o'r dyddiad y bydd y Cynulliad” mewnosodwch y geiriau “neu'r Cyngor”;
(iii) mewnosodwch ar ôl paragraff 1(2)—“
(2A) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), gall y Cyngor ddarparu i berson a grybwyllir ym mharagraffau 2 i 6 neu 8 fod yn athro neu athrawes gymwysedig o ddyddiad nad yw'n fwy na blwyddyn cyn yr hysbysiad i'r graddau bod hynny'n briodol gan roi sylw i holl amgylchiadau'r achos.”; a
(iv) ym mharagraff 1(4) yn lle'r geiriau “ni fydd y Cynulliad yn darparu” rhowch y geiriau “ni fydd naill ai'r Cynulliad na'r Cyngor yn darparu”.
3 
Mae Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Cymru) 2000 yn cael eu diwygio trwy roi yn lle'r diffiniad o “athro neu athrawes gymwysedig” yn rheoliad 2 y diffiniad canlynol—
 mae i “athro neu athrawes gymwysedig” yr un ystyr ag sydd i “qualified teacher” yn adran 218(2) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988;”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Ionawr 2003