
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Yn y rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992;
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
2 
Yn Rhan II o Atodlen 4 i Reoliadau 1992 (triniaeth â chymeradwyaeth ymlaen llaw), ym mharagraffau 1 a 2, yn lle “£260” rhowch “£375”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Rhodri Morgan
Y Prif Ysgrifennydd
Dyddiad 28 Mawrth 2002