
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2002, a deuant i rym ar 8 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Y swm y mae'n rhaid i awdurdod lleol ragdybio o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 y bydd ar berson ei angen at anghenion personol y person hwnnw fydd £16.80 yr wythnos.
3 
Mae Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2001 drwy hyn wedi'u diddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
J.E.Randerson
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg
22 Mawrth 2002