
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001.
2 

(1) Diwygir Rheoliad 4(1) o Reoliadau 2001 fel a ganlyn.
(2) Dilëir y gair “awdurdod” yn y llinell gyntaf ac yn ei le rhoddir “awdurdodau”.
(3) Ym mharagraff (a) mewnosodir ar ôl “Bwrdd” y geiriau
 “a fydd hefyd, yn ddarostyngedig i reoliad 4(2)(d), yn bwyllgor gwasanaethau cymdeithasol iddo yn unol ag Adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol 1970” .
3 

(1) Diwygir Rheoliad 4(2) o Reoliadau 2001 fel a ganlyn.
(2) Ar ddiwedd paragraff (c) dileïr y gair “ac” ac ar ôl paragraf (ch) mewnosodir:“
(d) is-bwyllgor i'r Bwrdd i fod yn bwyllgor gwasanaethau cymdeithasol iddo yn unol ag Adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol 1970 ;
(dd) pwyllgor apelau cyflogaeth; ac
(e) mwyafrif o bedwar pwyllgor arall, y gall Rheolau Sefydlog yr awdurdod ddarparu ar eu cyfer, ac a fyddant ond yn arfer swyddogaethau nad ydynt, yn unol â'r Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall, yn gyfrifoldeb Bwrdd awdurdod lleol hyn ar yr amod bod unrhyw benderfyniad i sefydlu pwyllgor o'r fath yn cael ei hysbysebu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn saith diwrnod o ddyddiad y penderfyniad.”
4 

(1) Diwygir Rheoliad 5(6) o Reoliadau 2001 fel a ganlyn.
(2) Yn lle'r geiriau “Caiff y Bwrdd” mewnosodir y geiriau:“
 Ni chaiff y Bwrdd gynnwys cadeirydd na dirprwy gadeirydd yr awdurdod lleol ond fe gaiff”.
5 

(1) Diwygir Atodlen 1 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i fwrdd awdurdod) i Reoliadau 2001 fel a ganlyn.
(2) Ychwanegir at ddiwedd paragraff 14 o Ran I (Swyddogaethau Amrywiol) yn ngholofn (1)“ac i benderfynu'r amodau a thelerau yn amodol i'r rheini y daliant eu swydd (gan gynnwys gweithdrefnau i'w diswyddo).”
(3) Ychwanegir ar ddiwedd Rhan I (Swyddogaethau Amrywiol):
(a) yng ngholofn (1):“
17 
Y pŵer i wneud gorchymyn yn enwi man yn fan cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau'r heddlu mewn perthynas ag yfed alcohol.”;
(b) yng ngholofn (2):“Adran 13(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 (p.16.).”;
(c) yng ngholofn (1):“
18 
Y pŵer i gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaethau Pobl Ifanc.”
(ch) yng ngholofn (2):“Adrannau 123,124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21).”;
(d) yng ngholofn (1):“
19 
Y pŵer i gymeradwyo Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc.”;
(dd) yng ngholofn (2):“Adrannau 123, 124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2002