
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru.
2 

(1) Diwygir Atodlen 1 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod) i Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 fel a ganlyn.
(2) Ychwanegir at ddiwedd paragraff 14 yn Rhan I (Swyddogaethau amrywiol) yng ngholofn (1)“ac i benderfynu'r amodau a thelerau yn amodol i'r rheini y daliant eu swydd (gan gynnwys gweithdrefnau i'w diswyddo).”
(3) Yn Rhan I (Swyddogaethau amrywiol) ar y diwedd, ychwanegir:
(a) yng ngholofn (1):“
17 
Y pŵ er i wneud gorchymyn sy'n enwi lle yn fan cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau'r heddlu mewn perthynas ag yfed alcohol.”;
(b) yng ngholofn (2):“
adran 13(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 (p.16).”;
(c) yng ngholofn (1):“
18 
Y pŵer i gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaethau Pobl Ifanc; a”
(ch) yng ngholofn (2):“
Adrannau 123, 124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000”;
(d) yng ngholofn (1):“
19 
Y pŵer i gymeradwyo Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc.”; ac
(dd) yng ngholofn (2):“
adrannau 123, 124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2002