
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn) (Cymru) 2002.
2 
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
3 
Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'n dweud fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 ac Atodlenni iddi.
4 
Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennwyd yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 21 Ionawr 2002.
5 
Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennwyd yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 1 Ebrill 2002.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Ionawr 2002
YR ATODLEN
Erthyglau 4 a 5
RHAN I

Y DDARPARIAETH Y PWNC
Adran 1 (i'r graddau y mae ei hangen er mwyn gwneud unrhyw reoliadau y mae'n darparu ar eu cyfer) Addysgu plant ag anghenion addysgol arbennig yn ysgolion y brif ffrwd
Adran 8 (i'r graddau y mae ei hangen er mwyn gwneud unrhyw reoliadau y mae'n darparu ar eu cyfer) Adolygiad neu asesiad o anghenion addysgol arbennig ar gais corff cyfrifol
Adran 42(1) (i'r graddau y mae'n berthnasol i ddarpariaethau Atodlen 8 a nodir yn y tabl hwn) Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Paragraffau 17 a 18 o Atodlen 8 (i'r graddau y mae eu hangen er mwyn gwneud unrhyw reoliadau y mae'n darparu ar eu cyfer) Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986
RHAN II

Y DDARPARIAETH Y PWNC
Adran 1 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) Addysgu plant ag anghenion addysgol arbennig yn ysgolion y brif ffrwd
Adran 2 Cyngor a gwybodaeth i rieni
Adran 3 Datrys anghydfodau
Adran 7 Dyletswydd i roi gwybod i riant pan wneir darpariaeth addysgol arbennig
Adran 8 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) Adolygiad neu asesiad o anghenion addysgol arbennig ar gais corff cyfrifol
Adran 9 Dyletswydd i bennu ysgol a enwir
Adran 42(1) (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) i'r graddau y mae'n berthnasol i ddarpariaethau Atodlen 8 a bennir isod.Adran 42(6) i'r graddau y mae'n berthnasol i ddarpariaethau Atodlen 9 a bennir isod. Mân ddiwygiadau a diddymiadau
Yn Atodlen 8, paragraffau 1, 5 i 12, 14, 16 i 18 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Yn Atodlen 9 y diddymiadau canlynol i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru—
 yn Neddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986, adran 5(1);
 yn Neddf Addysg 1996—
 yn adran 325(1), y geiriau “, and of the effect of subsection (2) below”;
 yn Atodlen 27, paragraff 3(4), paragraff 8(1)(b)(iii), ym mharagraff 9(1) y geiriau “amend, or” a “10 or”, a pharagraff 10. 