
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru yn unig.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod addysg” (“education authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;
 ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “grant” (“grant”) yw grant sy'n daladwy o dan adran 484 o Ddeddf 1996 yn unol â'r Rheoliadau hyn;
 ystyr “gwariant a gymeradwywyd” (“approved expenditure”) yw unrhyw wariant sydd wedi'i gymeradwyo yn unol â'r ddarpariaeth yn rheoliad 3;
 ystyr “gwariant a ragnodwyd” (“prescribed expenditure”) yw gwariant gan awdurdod addysg at unrhyw un o'r dibenion a bennir yn yr Atodlen neu mewn cysylltiad â hwy;
 ystyr “penderfynu” (“determine”) yw penderfynu drwy hysbysiad ysgrifenedig;
 mae i “safle ysgol” yr ystyr a roddir i “school site” ym mharagraff 2(11) o Atodlen 3 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at reoliad a gynhwysir ynddynt, mae cyfeiriad mewn rheoliad at baragraff yn gyfeiriad at baragraff yn y rheoliad hwnnw, ac mae cyfeiriad at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
3 
Ni fydd grantiau yn daladwy ond ar gyfer gwariant a ragnodwyd ac a dynnwyd neu a dynnir yn ystod blwyddyn ariannol a dim ond i'r graddau y mae'r gwariant hwnnw wedi'i gymeradwyo am y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn.
4 
Rhaid talu grantiau ar gyfer gwariant a gymeradwywyd ac a dynnwyd ar 1 Ebrill 2002 neu ar ôl hynny o'r math y cyfeirir ato yn yr Atodlen yn ôl cyfradd o 100 y cant o'r gwariant hwnnw a gymeradwywyd.
5 

(1) Ni thelir grant onid yw'n ymateb i gais ysgrifenedig oddi wrth awdurdod addysg i'r Cynulliad Cenedlaethol, wedi'i ddilysu gan swyddog o'r awdurdod sy'n gyfrifol am weinyddu eu cyllid neu ddirprwy'r person hwnnw.
(2) Rhaid i geisiadau am dalu'r grant ymwneud â gwariant dros un neu ragor o'r cyfnodau a bennir ym mharagraff (3) ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym a rhaid iddynt bennu'r gwariant a gymeradwywyd ac y gwneir cais am grant ar ei gyfer, sef gwariant a dynnwyd gan yr awdurdod addysg yn ystod pob un o'r cyfnodau hynny neu yr amcangyfrifir y bydd yn cael ei dynnu.
(3) Y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(a) o 1 Ebrill hyd at 31 Gorffennaf;
(b) o 1 Ebrill hyd at 30 Tachwedd;
(c) o 1 Rhagfyr hyd at 31 Mawrth.
(4) Rhaid i bob awdurdod addysg y talwyd grant iddo neu sy'n ceisio cael taliad grant ar gyfer gwariant a dynnwyd yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol, wneud y canlynol cyn 31 Hydref yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y dyddiad hwnnw—
(a) cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatganiad ar ffurflen safonol a ddarperir gan y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r datganiad hwnnw bennu'r gwariant a gymeradwywyd ac y mae cais wedi'i wneud neu'n cael ei wneud am grant ar ei gyfer, sef gwariant a dynnwyd gan yr awdurdod addysg yn ystod y flwyddyn honno; a
(b) sicrhau cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol dystysgrif wedi'i llofnodi gan archwilydd a benodwyd gan y Comisiwn Archwilio i Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 ac sy'n ardystio bod y manylion a roddwyd yn y datganiad, ym marn yr archwilydd, ac a gyflwynwyd gan yr awdurdod yn unol â'r paragraff hwn, wedi'u datgan yn deg a bod y gwariant a dynnwyd wedi'i gymeradwyo at ddibenion adran 484 o Ddeddf 1996.
(5) Ac eithrio yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ni thelir grant mewn perthynas â gwariant a dynnwyd gan awdurdod addysg yn ystod y cyfnod 1 Awst hyd at 30 Tachwedd mewn unrhyw flwyddyn neu unrhyw gyfnod ar ôl hynny os talwyd grant i'r awdurdod mewn perthynas â gwariant yn ystod blwyddyn ariannol flaenorol ac nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol eto wedi cael tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (4)(b) am y flwyddyn honno.
(6) Rhaid i unrhyw dandaliad neu ordaliad o grant sy'n dal heb ei dalu ar ôl cael tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (4)(b), heb ragfarnu camau i adennill unrhyw ordaliad o unrhyw daliad dilynol o grant i'r awdurdod addysg, gael ei addasu â thaliad rhwng yr awdurdod a'r Cynulliad Cenedlaethol.
6 
Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol, adeg cymeradwyo gwariant at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn mynnu gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw ddiben a restrir yn yr Atodlen, bydd talu'r grant, at y diben hwnnw yn amodol ar gynnwys yr wybodaeth honno yng nghais yr awdurdod addysg i gael taliad y grant.
7 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, o bryd i'w gilydd, benderfynu ar amodau pellach y bydd talu yn unol â'r Rheoliadau hyn yn ddibynnol ar eu cyflawni.
(2) Os penderfynwyd ar amodau yn unol â'r rheoliad hwn ni cheir talu grant oni fydd yr amodau hynny wedi'u cyflawni neu wedi'u tynnu'n ôl yn unol â pharagraff (3).
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu tynnu'n ôl neu, wedi ymgynghori â'r awdurdod addysg, amrywio'r amodau y penderfynwyd arnynt yn unol â'r rheoliad hwn.
8 
Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y talwyd grant iddo, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei fynnu, roi iddo unrhyw wybodaeth bellach y bydd yn ei mynnu i'w alluogi i wirio bod unrhyw grant a dalwyd wedi cael ei dalu'n briodol o dan y Rheoliadau hyn.
9 
Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y talwyd grant iddo gydymffurfio ag unrhyw ofynion (gan gynnwys gofynion sy'n ymwneud ag ad-dalu'r grant neu dalu i'r Cynulliad unrhyw symiau sy'n perthyn i werth asedau a gaffaelwyd, a ddarparwyd neu a wellhawyd drwy gymorth grant neu log ar symiau sy'n ddyledus iddo) y bydd y Cynulliad yn penderfynu arnynt yn yr achos dan sylw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Mawrth 2002
YR ATODLEN
Rheoliadau 2 a 3

Gwella safleoedd ysgolion, gan gynnwys—
(a) gwella, adnewyddu neu amnewid adeiladau, celfi ac offer (heblaw offer technoleg gwybodaeth a chyfathrebu) a ddefnyddir at ddibenion addysgol;
(b) darparu ceblau ar gyfer offer technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a'u gosod fel rhan o wella, adnewyddu neu amnewid o'r fath (ond nid darparu'r offer ei hun a'i osod ); ac
(c) darparu offer diogelwch.
